Mae ymgynghoriad cyhoeddus wedi agor yn Sir Fôn ar ganllawiau cynllunio atodol y cyngor lleol ar gyfer adeiladu gorsaf niwclear Wylfa Newydd.

Fodd bynnag, ni bydd yr ymgynghoriad yn ymwneud â’r cwestiwn a ddylid adeiladu atomfa newydd ai peidio. Mae’r Cyngor eisoes wedi penderfynu cefnogi cynllun o’r fath, gan ei ddisgrifio fel “cyfle unwaith mewn oes i drawsnewid economi a chymunedau’r Ynys”.

Mae’r Canllawiau Cynllunio Atodol yn ymwneud yn hytrach â manteisio ar unrhyw fuddion posibl a lliniaru drwg effeithiau atomfa newydd.

Roedd y Cyngor eisoes wedi paratoi Canllawiau o’r fath yn 2014, ond oherwydd newid mewn deddfwriaeth penderfynodd y Cyngor eu diweddaru.

“Bydd adeiladu’r atomfa newydd yn arwain at gyfleoedd economaidd sylweddol, yn ogystal â heriau,” meddai deilydd y portffolio Cynllunio, Richard Dew.

“Bydd y canllawiau newydd yn rhoi hwb i’n hymdrechion i sicrhau manteision economaidd i’r Ynys ac yn lliniaru unrhyw effeithiau andwyol sy’n gysylltiedig â’r datblygiadau yma.”

Mae’r dogfennau ymgynghori i’w gweld ar wefan y Cyngor Sir www.ynysmon.gov.uk ac fe ddaw’r ymgynghoriad i ben ddydd Iau 22 Chwefror.

Effaith ar y Gymraeg

Ymysg y pryderon mae effaith atomfa newydd ar y Gymraeg ym Môn, yn bennaf oherwydd y byddai’n golygu mewnlifiad o filoedd o weithwyr yn ystod y cyfnod adeiladu.

Mae’r pryderon hyn wedi dwysáu ar ôl i Horizon, y cwmni sy’n gyfrifol am ddatblygu Wylfa Newydd, lwyddo i wanhau amodau iaith yng Nghynllun Datblygu Lleol Gwynedd a Môn y llynedd.

Er bod asesiad o’r effaith ar y Gymraeg wedi cael ei wneud ar gyfer y Canllawiau Cynllunio Atodol hyn, asesu’r canllawiau y mae’n ei wneud yn hytrach nag asesu effeithau cynllun Wylfa newydd ei hun.

Dywed yr aesiad fod ei ganfyddiadau’n awgrymu “bod y canllawiau yng Nghanllawiau Cynllunio Atodol drafft Wylfa Newydd yn debygol o gael effaith gyffredinol gadarnhaol ar y Gymraeg.”