Mae Heddlu’r Gogledd yn apelio am wybodaeth yn dilyn diflaniad dyn 36 oed o Brestatyn.
Dydy Justin Faddes ddim wedi cael ei weld ers dydd Mercher (Ionawr 3). Fe adawodd ei gartref am oddeutu 7 o’r gloch y noson honno.
Mae’n gyrru Citroen Xsara Picasso, ac mae ganddo gysylltiad ag ardal Sir Gaer.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.