Mae cwmni bysus D Jones a’i Fab yn Wrecsam wedi cyhoeddi y bydd yn dod i ben heddiw.
Fe fydd eu penderfyniad yn cael effaith ar gludiant ysgolion yr ardal, wrth i Gyngor Wrecsam roi trefniadau newydd ar waith o ddydd Llun.
Cafodd y cwmni ei sefydlu yn y 1960au yn ardal Acrefair, ac mae ganddyn nhw fwy nag ugain o gerbydau.
Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor fod eu cynllun wrth gefn yn dod i rym ar gyfer wythnos ola’r tymor yr wythnos nesaf.
Mae’r cwmni wedi bod yn cludo plant o Ysgol Morgan Llwyd yn Wrecsam, ymhlith ysgolion eraill, ond fe fydd cwmni Pat’s Coaches yn cymryd at y gwaith hwnnw yr wythnos nesaf.
Fe fydd y penderfyniad hefyd yn cael effaith ar drafnidiaeth gyhoeddus, gyda nifer o deithiau wedi cael eu hail-drefnu.