Mae Llafur wedi rhybuddio y gallai Llywodraeth Cymru wrthod a chefnogi’r Mesur Ymadael os byddan nhw’n cael eu hesgeuluso o drafodaethau ag Ewrop.

Mae’r Ysgrifennydd Cymru yr wrthblaid, Christina Rees, wedi dweud y bydd y mesur yn “annhebygol” o dderbyn cefnogaeth y Cynulliad yn ei ffurf bresennol.

“Heblaw bod [Llywodraeth y Deyrnas Unedig]  yn mynd ati cyn ail gyfnod y trafodaethau, i gytuno ar ffordd o ymdrin â’r mater mewn modd bydd yn cynnwys y cenhedloedd datganoledig,” meddai’r Aelod Seneddol.

“Mae’n annhebygol bydd Llywodraeth Cymru yn pasio cynnig cydsyniad deddfwriaethol i gefnogi Mesur Ymadael yr Undeb Ewropeaidd.”

Yn ôl Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn “cydweithio’n agos” â Llywodraeth Cymru.

Cynnig cydsyniad

Nod y Mesur Ymadael yw dod â goruchafiaeth cyfraith yr Undeb Ewropeaidd i ben, ac i droi cyfreithiau’r Undeb Ewropeaidd yn rhai Prydeinig.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyhoeddi cynlluniau i gynnal pleidlais ‘cynnig cydsyniad deddfwriaethol’ yn y Senedd, i benderfynu os ydyn yn cefnogi’r ddeddf neu beidio.

Bydd Aelodau Cynulliad yn cynnal y bleidlais hon ym mis Ionawr.