Mae disgwyl i Gabinet Cyngor Gwynedd wneud penderfyniad yn ddiweddarach ynghylch cynlluniau  i ariannu canolfan awyrofod yn y sir.

Mae Canolfan Awyrofod Eryri wedi ei leoli ym Maes Awyr Llanbedr ger Harlech, ac os caiff y cynllun ei gymeradwyo mi fydd £500,000 yn cael ei fuddsoddi er mwyn datblygu’r safle.

Byddai’r arian yn cyfrannu at ffordd fynediad newydd a gwelliannau i gyfleusterau’r maes, ac yn ôl dogfen gan y Cyngor gall y buddsoddiad arwain at greu 100 o swyddi.

Mae disgwyl i’r cynllun gostio cyfanswm o £25 miliwn, gydag arian gan Lywodraeth Cymru, Ewrop a’r sector breifat yn cael ei gyfrannu yn ogystal â buddsoddiad y Cyngor.

“Hyrwyddo drôns militaraidd”

Mae ymgyrchwyr heddwch wedi codi pryderon am y safle gyda Cymdeithas y Cymod yn honni y bydd yr arian yn cyfrannu at “hyrwyddo drôns militaraidd”.

Hefyd mae’r grŵp wedi herio honiadau am greu swyddi gan ddadlau mai swyddi “dros dro” fyddan nhw, ac maen nhw wedi codi pryderon am gysylltiadau â chwmni technoleg filwrol QinetiQ.

Bydd aelodau Cymdeithas y Cymod yn bresennol yng Nghaernarfon heddiw, ac mae’r mudiad wedi cyflwyno llythyr i aelodau’r Cabinet.

“Defnydd masnachol”

Dywedodd Prif Weithredwr y ganolfan, Paul Lee wrth golwg360:“Drôns masnachol fydd yn cael eu defnyddio yn y mwyafrif o  weithgareddau yno.

“Gweithgaredd erydu arfordirol a rheoli pysgodfeydd oedd yr un ddiweddaraf i ni gynnal. Felly mae llawer o’r cyfleusterau yn cael eu datblygu i gefnogi defnydd masnachol o drôns – ar gyfer diogelwch.”

Er hyn, mae’n cydnabod “mwy na thebyg” y bydd defnydd milwrol i’r safle, ac mae’n dweud eu bod mewn trafodaethau â’r Llu Awyr “tros ddefnyddio Llanbedr”.

Mae’r Prif Weithredwr hefyd yn gwrthod honiad Cymdeithas y Cymod bod y buddsoddiad yn mynd i greu  swyddi “dros dro” yn unig.

Mae’n dadlau mai nod y cynnig yw i “wella a chynnal y swyddi hir dymor” ac mae’n dweud y bydd yn galluogi grwpiau sy’n cynnal gweithgareddau yno i “symud yno, ac aros yn barhaol”.

“Gwella cyfleoedd”

Mae’r Cynghorydd Mandy Williams-Davies, sy’n arwain ar yr Economi i Gyngor Gwynedd wedi dweud bod angen datblygu’r safle er mwyn denu buddsoddwyr.

“Ni fydd adeiladu’r ffordd mynediad newydd yma yn creu cyflogaeth ynddo’i hun, ond rydym yn glir iawn mai heb y gwaith alluogol allweddol bwysig yma, ni all y safle ddenu’r buddsoddwyr sydd eu hangen i ddatblygu a chyfrannu i economi Meirionnydd.

“Ar hyn o bryd, mae trigolion Dwyfor-Meirionnydd yn ennill un o’r cyflogau wythnosol isaf yn y DU – dydy’r sefyllfa ddim yn gynaliadwy, ac rydym yn benderfynol o wneud popeth y gallwn ni i wella cyfleoedd cyflogaeth yn yr ardal.  Rydym yn credu’n gryf fod angen rhoi’r isadeiledd angenrheidiol mewn lle ar gyfer safle Llanbedr er mwyn uchafu’r cyfle i’r safle strategol pwysig yma lwyddo.”