Mae Menter Caerdydd a Menter Bro Morgannwg wedi penodi prif weithredwr newydd.

Bydd Manon Rees-O’Brien yn olynu Siân Lewis sydd bellach wedi’i phenodi yn Brif Weithredwr yr Urdd.

Mae Manon Rees-O’Brien yn hanu o Ddinbych ac ar hyn o bryd yn gweithio i Chwaraeon Cymru yn delio a pherthynas y corff â chyrff eraill.

Bydd yn gadael Chwaraeon Cymru wedi treulio un mlynedd ar bymtheg yn gweithio yno.

Mae ganddi radd mewn Economeg o Brifysgol Aberystwyth ac mi ddechreuodd ei gyrfa yn y byd ariannol.

Ehangu a hyrwyddo

“Mae’n fraint ac anrhydedd i gael fy mhenodi fel Prif Weithredwr Menter Caerdydd a Menter Bro Morgannwg,” meddai Manon Rees-O’Brien.

“Rwy’n edrych ymlaen at gydweithio’n agos gyda staff a gwirfoddolwyr angerddol ac ymroddedig y mudiadau er mwyn parhau i gynnig cyfleoedd a chyflogaeth i ehangu a hyrwyddo defnydd yr iaith Gymraeg yn ein cymunedau.”