Mae’r swyddog a gafodd y cyfrifoldeb o ddifa lyncs oedd wedi ffoi o sŵ Borth Wild Animal Kingdom wedi amddiffyn y penderfyniad i’w saethu’n farw.

Roedd Cyngor Ceredigion wedi penderfynu difa Lillith, y gath fawr 17 mis oed, ar ôl iddi gael ei gweld o gwmpas lle’r oedd pobol yn byw, gan ddweud bod y perygl y gallai hi ymosod arnyn nhw wedi cynyddu.

Yn ôl perchnogion y sŵ, roedd pwysau arnyn nhw o’r cychwyn i roi eu caniatâd iddi gael ei difa, ac fe ddywedon nhw mewn datganiad nad “ein penderfyniad ni oedd ei lladd a wnaethon ni ddim cytuno o gwbl na chymryd rhan yn y weithred o saethu’n cath ifanc”.

Ychwanegon nhw eu bod nhw “wedi torri’u calonnau ac “wedi’u cythruddo”.

‘Roedd rhaid gweithredu’

Ond mae’r dyn a gafodd y cyfrifoldeb o saethu Lillith yn farw wedi dweud wrth bapur newydd y Guardian fod “rhaid gweithredu”.

Mae Andrew Venables yn saethwr proffesiynol a chanddo ysgol hyfforddi yn yr ardal.

Dywedodd: “Y gwir trist iawn yw fod anifail wedi cael dianc yn y lle cyntaf, a doedd y perchnogion ddim wedi gallu ei dal dros gyfnod gras o dair wythnos.”

Ychwanegodd fod angen mynd o fewn 10-15 metr er mwyn tawelu anifail â gwn dartiau, a bod y dart yn cymryd hyd at 15 munud i fod yn effeithiol.

Ond ychwanegodd y gallai Lillith fod wedi “rhedeg yn ystod y cyfnod hwn”.

“Cafwyd hyd i’r anifail mewn parc carafanau, lle mae twristiaeth yn hanfodol, a doedd y posibilrwydd o ymateb trwy ddartio byth wedi cael ei ystyried. Roedd yn fwy cymhleth oherwydd y tywyllwch, gan fod y gweithgarwch dros nos.”

Ychwanegodd y Cyngor fod diogelwch y cyhoedd “o’r pwys mwyaf” a bod angen “gweithredu mewn modd penderfynol”.

‘Colli cyfle’

Ond yn ôl y perchnogion, cafodd cyfle i ddal Lillith ei golli ddeuddydd cyn ei lladd, wrth iddi gysgu o dan garafan.

“Pan aethom yno, roedd y gath mewn llecyn caeedig o dan y garafan a’r cyfan oedd angen i ni ei wneud oedd rhoi rhwyd o amgylch yr unig fwlch agored,” meddai’r llefarydd.

“Ond roedd un o swyddogion y cyngor yn mynnu bod yn rhaid iddo gael tynnu ei llun a’i hadnabod yn swyddogol cyn gadael inni fynd yn agos ati.

“Fe lithrodd a syrthio, gan ddychryn y gath a pheri iddi ddianc oddiyno dros y caeau.

“Er inni ddal ati i geisio ei dal â chewyll a rhwydi, mynnodd y cyngor roi gorchymyn i ladd, ac o fewn 24 awr roedd hi wedi marw.”

‘Lles y cyhoedd’

Mewn datganiad a gafodd ei rannu gan y Cynghorydd Ceredig Davies ar Facebook, dywed y cyngor mai er mwyn diogelu’r cyhoedd y gwnaethon nhw weithredu fel hyn:

“Cafwyd cyngor ychwanegol brynhawn dydd Gwener, 10 Tachwedd, gan filfeddyg arbenigol fod y perygl i les y cyhoedd wedi codi berygl cymedrol i berygl llym yn sgil methiant parhaus y sŵ i ddal i gath.

“Roedd diogelwch y cyhoedd yn holl bwysig, ac felly unwaith roedd y gath wedi crwydro i ardal boblog o’r gymuned roedd angen gweithredu ar frys.”