Fe fydd Lloyd Macey o Ynys-hir yn ceisio cadw ei le yn The X Factor heno wrth ganu ei fersiwn o gân Enrique Iglesias, Hero.

Caneuon Viva Latino yw’r thema yr wythnos hon.

Fe blesiodd y Cymro Cymraeg y beirniaid yn fawr yr wythnos ddiwethaf gyda’i fersiwn o City of Stars o’r ffilm La La Land.

Dywedodd y beirniad Sharon Osborne fod gan y dyn 23 oed o Gwm Rhondda “lais Cymreig clasurol”.

Ychwanegodd Nicole Scherzinger fod ei lais “fel Cadillac”, a’i fod yn “canu’n ddiymdrech”.

Enillodd ei le yn y sioeau byw drwy ganu’r gân Disney How Far I’ll Go o’r ffilm Moana yng nghartre’r beirniad Louis Walsh yn Nhwrci.