Fe fydd y ddwy Gymraes Gymraeg sy’n cystadlu am arweinyddiaeth Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn cael gwybod y canlyniad yn ddiweddarach heddiw.

Mae’r ddwy – Jane Dodds o’r Trallwng ac Elizabeth Evans o Aberaeron – wedi bod yn cystadlu am y swydd ers i’r cyn AS Mark Williams ymddiswyddo.

Fe fu’n rhaid i’r blaid newid y rheolau er mwyn caniatáu i’r ddwy sefyll, gan nad yw’r un ohonyn nhw yn Aelod Seneddol neu Aelod Cynulliad.

Y dewis amlwg fyddai Kirsty Williams, yr unig aelod sydd gan y blaid Gymreig yng Nghaerdydd neu San Steffan ond fe farnodd y blaid fod ganddi hi ddigon ar ei phlat yn Ysgrifennydd Llywodraeteh Cymru tros Addysg.

Bellach, mae’r blaid yn fodlon derbyn arweinydd sydd ar restr ymgeiswyr cymeradwy’r blaid – fe safodd Elizabeth Evans am sedd y Cynulliad yng Ngheredigion ac mae Jane Dodds wedi sefyll ddwywaith yn Sir Drefaldwyn.

Safbwyntiau

Dyma ddyfyniadau o ddatganiadau y mae’r ddwy ymgeisydd wedi’u gwneud yn ystod yr ymgyrch:

“Does ar Gymru erioed wedi bod â chymaint o angen am y Democratiaid Rhyddfrydol ag y mae heddiw. Mae’n amser am ddechrau newydd, i greu cymdeithas decach, i wneud safiad tros yr amgylchedd ac i daclo Brexit.” – Jane Dodds

“Ni yw plaid ymreolaeth, rhyddfrydiaeth radical a democratiaeth gymdeithasol. R’yn ni’n edrych am allan, yn Brydeinig, Ewropeaidd a gwirioneddol ryngwladol… ni yw’r ateb i genedlaetholdeb a phencampwyr hunanlywodraeth ac mae angen i ni roi gwybod i bobol Cymru.” – Elizabeth Evans.