Dylan Iorwerth sy’n edrych ar gêm dactegol David Cameron…

Mae arweinydd y Torïaid, David Cameron, wedi galw am chwyldro bach o fewn y drefn wleidyddol, gan gynnwys torri grym y Prif Weinidog.

Gawn ni weld sut y bydd hi, os gwnaiff o lwyddo i ennill. Chwarae gêm dactegol y mae o wrth gwrs ond efallai y  bydd y bêl yn bownsio’n ôl i’w daro yn ei wyneb.

Un o’i syniadau eraill ydi torri’n ôl ar nifer yr Aelodau Seneddol. Mae o eisiau gweld tua 10% yn llai ohonyn nhw a threfn decach i wneud yn siwr fod pob etholaeth tua’r un faint.

Yng Nghymru, mi fyddai’r ddau beth yn golygu colli mwy na phedair sedd ac mi fyddai hynny ynddo’i hun yn creu dryswch diddorol o ran matsio’r etholaethau newydd efo etholaethau’r Cynulliad.

Ond mi allai’r tactegwr digywilydd fod wedi mynd ymhellach. Yng Nghymru – a’r Alban o ran hynny – mi allai fod wedi gofyn be ydi pwynt Aelodau Seneddol fel y maen nhw heddiw.

Erbyn hyn, Aelodau Cynulliad sy’n gwneud y rhan fwya’ o’r gwaith caib a rhaw. Nhw sy’n gorfod trio ateb problemau ymarferol eu hetholwyr a chymryd y pwysau o ddydd i ddydd.

Felly, os yden ni am gael llai o Aelodau Seneddol, beth am newid y ffordd o’u hethol hefyd? Does dim rhaid iddyn nhw gynrychioli etholaeth o gwbl – mi fydd rhanbarth yn hen ddigon lleol.

Felly pleidleisio cyfrannol amdani a rhestrau er mwyn cael patrwm teg a’r math o aelodau sydd eu hangen ar gyfer yr ychydig waith sydd ar ôl.

Chwarae gêm gysylltiadau gyhoeddus y mae Cameron ar hyn o bryd – ond efallai mai PR fydd yr ateb.