Warren Gatland (Llun: Gareth Fuller/PA)
Mae Cadeirydd Undeb Rygbi Cymru (WRU) wedi dweud bod yr undeb wedi llunio rhestr fer o lond llaw o bobol i olynu’r Prif Hyfforddwr, Warren Gatland.

Mae Warren Gatland wedi bod yn Brif Hyfforddwr ar dîm rygbi Cymru ers 2007, ac mae disgwyl y bydd yn gadael ei swydd yn dilyn Cwpan y Byd 2019 yn Japan.

Nod y WRU yw cyhoeddi enw Prif Hyfforddwr newydd erbyn haf 2018, a bellach mae’r rhestr fer o’r olynyddion posib wedi ei gwtogi o wyth unigolyn i dri.

“Rydym ni wedi bod yn brysur iawn dros y chwe mis diwethaf ac wedi siarad â sawl person,” meddai Cadeirydd y WRU, Gareth Davies.

“Rydym wedi gweld peth cynnydd. Rydym ni wedi siarad ag amryw o bobol pan rydym ni wedi cael y cyfle i wneud hynny.”

Olynyddion

Mae tîm rygbi Cymru wedi ennill tri theitl Chwe Gwlad a dwy Gamp Lawn tra bod Warren Gatland wedi bod wrth y llyw.

Mae’n bosib bod Hyfforddwr Cynorthwyol Cymru, Rob Howley, a Chyfarwyddwr Rygbi’r Wasps Dai Young ymysg yr unigolion sy’n cael eu hystyried ar gyfer swydd y Prif Hyfforddwr.