Atomfa Hinkley Point (Llun: Richard Baker CCA 2.0)
Mae Aelod Cynulliad Canol De Cymru wedi beirniadu cynllun i symud tunelli o fwd sydd o gwmpas hen orsaf niwclear yng Ngwlad yr Haf, Hinkley, a’i roi yn y môr ger Bro Morgannwg.

Mewn neges ar wefan gymdeithasol Twitter dywedodd Neil McEvoy, sydd wedi’i wahardd o grŵp Plaid Cymru ar hyn o bryd, y dylai’r “dympio arfaethedig gael ei atal tan y bydd asesiad i’r effaith amgylcheddol yn cael ei gynnal.”

Mae’n debyg fod y cynllun yn cynnwys codi gwastraff o Fae Bridgewater yng Ngwlad yr Haf a’i symud i’r môr o gwmpas Bro Morgannwg wrth i’r orsaf newydd Hinkley Point C gael ei datblygu.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod “trwyddedau morol yn cael eu cynnal gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC), ar ran Gweinidogion Cymru”.

“Wrth benderfynu ar gais mae CNC yn ystyried diogelwch yr amgylchedd, iechyd y cyhoedd ac atal ymyrraeth a defnydd cyfreithiol o’r môr,” meddai’r llefarydd.

“Mae ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal ar yr holl geisiadau gydag ymatebion yn cael eu hystyried yn rhan o’r broses benderfynu i roi gwybod am y camau nesaf.”

Ymateb Cyfoeth Naturiol Cymru

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dweud fod y drwydded wedi’i darparu “yn seiliedig ar y tystiolaeth gorau a gyflwynwyd gyda’r cais a’r tystiolaeth a dderbyniwyd fel rhan o’r broses ymgynghori.”

Yn ôl John Wheadon, Rheolwr Gwasanaethau Caniatau CNC, “wrth asesu trwydded forol, rydyn ni’n ystyried gwarchod iechyd pobol a’r amgylchedd ac yn ceisio sicrhau nad yw’n ymyryd â defnydd cyfreithlon o’r môr”.

“Mae yna amodau llym yn y trwydded i wneud arbrofion o’r gwaddod, gan gynnwys asesiad radiolegol, cyn iddo gael ei ryddhau,” meddai wedyn.

 

“Byddwn ond yn gadael i’r gwaith gychwyn pan ein bod ni’n hyderus na fydd y weithred yn beryglus i bobol na’r amgylchedd.”