Mae S4C wedi ei beirniadu am ddweud nad oes angen i ymgeiswyr ar gyfer swydd wag gyda’r Sianel allu siarad Cymraeg.

Yn ôl ymgyrchwyr iaith fe ddylai holl weithwyr y Sianel Gymraeg fedru siarad yr iaith.

Ond does dim rhaid i chi fedru cyfathrebu yn y Gymraeg os ydych am fod yn gyfrifydd cynorthwyol gydag S4C – “dymunol” yw’r gallu i siarad yr iaith yn ôl hysbyseb y Sianel.

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi codi cwestiynau dros allu S4C i weithio yn fewnol drwy’r Gymraeg os oes rhywun yn y swyddfa sydd ddim yn medru’r iaith.

Mewn datganiad i golwg360, fe wnaeth y mudiad hefyd gyhuddo’r sianel o droi’n fwy Seisnigaidd.

“Dan ddylanwad y BBC, sy’n sefydliad Seisnig yn ei hanfod, mae S4C yn troi’n fwyfwy Seisnigaidd,” meddai Heledd Gwyndaf, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith.

“Sut yn y byd allan nhw weithredu’n fewnol yn Gymraeg os oes rhywun yn y swydd hon sydd ddim yn medru’r Gymraeg?

“Cafodd y darlledwr ei sefydlu fel un annibynnol er lles yr iaith; dylai pawb sy’n gweithio i’r corff weithio drwy gyfrwng y Gymraeg.

“Mae’n sarhad ar y rhai hynny ohonon ni sy’n cefnogi’r sianel os yw’r gwaith yn digwydd yn fewnol yn Saesneg. Rhaid datganoli darlledu i Gymru ar frys a dod â’r nonsens hyn i ben.”

Datganiad S4C

Meddai llefarydd ar ran S4C; “Y swydd yma sy’n gyfrifol am holl gyfrifon is-gwmniau masnachol S4C, lle nad yw’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol. Nid yw’r rôl yn un sy’n gofyn am ymwneud â’r cyhoedd na gyda chwmnïau cynhyrchu sy’n cyflenwi rhaglenni i S4C.

“Felly’r canlyniad oedd y byddai gallu yn y Gymraeg yn sicr yn fanteisiol, ond y byddai modd cyflawni’r swydd heb fedru deall Cymraeg os byddai sgiliau rhifedd cryf a phrofiad cyllid yr ymgeisydd llwyddiannus yn gwarantu hynny. Byddem hefyd yn fodlon cynnig gwersi Cymraeg i’r ymgeisydd llwyddiannus pe byddai angen hynny.”