Mae’n rhaid meddwl mewn “termau hollol newydd” ynglŷn â’r frwydr dros annibyniaeth i Gymru.

Dyna farn un o drefnwyr yr Annibynŵyl yng Nghaernarfon ddydd Sadwrn, sy’n chwaer-ddigwyddiad i ŵyl Indyfest yng Nghaerdydd, sydd hefyd yn cael ei chynnal ar Ddydd Owain Glyndŵr.

“Teitl y digwyddiad ydi ‘dathlu cân Glyndŵr,’” meddai Aled Gwyn Job, un o drefnwyr Annibynŵyl ar ran mudiad ‘Yes Cymru’.

“Dyna ddaru Glyndŵr ei wneud – galw senedd-dai, y syniad o gael yr eglwys Gymreig yn y gogledd a’r de – canu’r syniadau yma i fodolaeth ddaru o. Mae hynny’n addas iawn i ni heddiw, ein bod ni’n gorfod meddwl mewn termau hollol newydd i’r peth.

“Mae o’n gorfod bod yn rhywbeth sydd y tu hwnt i’r broses wleidyddol arferol sydd mor ddiflas ac sydd wedi dieithro cynifer o bobol. Un peth sy’n dda ynglŷn â ’r wyl yma a’r ŵyl yng Nghaerdydd ydi ei fod yn rhywbeth sy’n organig iawn, sy’n digwydd o’r bôn i’r brig, sy’n defnyddio creadigrwydd, dychymyg a thalentau pobol mewn ffordd sy’n hollol newydd a radical.

“Mae yna bwyslais ar fod yn greadigol, yn anarchaidd, yn bobol-ganolog, a chi’n gallu cyrraedd piobol yn well trwy gyelfyddyd nag yr ydych drwy wleidyddiaeth.”

Refferendwm o fewn pum mlynedd?

O ran y frwydr dros annibyniaeth, mae’n rhaid anelu at “refferendwm o fewn y 5 mlynedd nesaf,” yn ôl Aled Gwyn Jôb.

“Y cwestiwn i Yes Cymru ydi – a ydyn nhw’n sefyll fel symudiad gwleidyddol ar gyfer etholiadau’r Cynulliad yn 2021 er mwyn pwyso ar hyn?” meddai.  “Allwn ni sefyll yn yr etholiadau yna, neu a ydi o’n fater o ddylanwadu ar y pleidiau eraill er mwyn cael y bleidlais yma?”

Mae “cyfuniad o ddau beth” gan gynnwys ymgyrch tîm pêl-droed Cymru yn Euro 2016 yn gyfrifol am y diddordeb cynyddol mewn materion cenedlaetholgar, meddai wedyn.

“Roedd yr Ewros y llynedd yn rhyfeddol yn y ffordd ddaru o uno’r digymraeg a’r Cymry Cymraeg at ei gilydd, a bod Cymru wedi cael ei gweld fel gwlad ar lwyfan Ewrop am y tro cyntaf ers canrifoedd, o bosib.

“Ynghlwm â hynny, roedd y refferendwm ar adael yr Undeb Ewropeaidd, ac roedd hwnnw wedi gorfodi pobol i feddwl o’r newydd fod rhaid i ni fel Cymry fod yn mynnu llais ein hunain, neu mi ydan ni yn mynd i gael ein gwasgu allan o fodolaeth yn llwyr.

“Mae’r ddau beth yna wedi arwain at y synnwyr yma erbyn hyn bod yn rhaid gwneud rhywbeth gwahanol am hyn a bod pobol mwy agored i syniadau yma nag erioed o’r blaen.”