Mae sylwadau gan Weinidog y Gymraeg, Alun Davies ynghylch ffrae iaith rhwng Aelod Cynulliad a Banc Lloyds wedi ennyn ymateb chwyrn gan ymgyrchydd iaith ar wefan gymdeithasol Twitter.

Roedd yr Aelod Cynulliad dros Ddwyrain Abertawe, Mike Hedges wedi trydar y neges ganlynol at y Gweinidog yn tynnu sylw at y ffaith fod y banc wedi gwrthod derbyn llythyr Cymraeg wrth i’w ferch Catrin geisio agor cyfrif banc fel myfyrwraig:

Wrth ymateb, dywedodd y Gweinidog wrth Mike Hedges:

Wrth ymateb i’r llif negeseuon rhwng y ddau Aelod Cynulliad, tynnodd yr ymgyrchydd iaith Osian Rhys sylw at Safonau’r Gymraeg, gan ofyn i’r Gweinidog:

Dyma’i ateb cyntaf:

Ond doedd Osian Rhys ddim yn hapus gyda’r ateb hwnnw, ac fe ailadroddodd ei gwestiwn.

Dyma ail ateb y Gweinidog:

Ond roedd Osian Rhys yn dal yn anfodlon, gan ofyn y cwestiwn unwaith eto:

Hyd yma, dydy Alun Davies ddim wedi ateb y cwestiwn gafodd ei ofyn y trydydd tro.