Dylan Iorwerth sy’n edrych ar weinidogion sy’n hawlio costau am gyngor treth…

Pan fydd y rhan fwya’ ohonon ni’n llenwi ffurflen dreth, mae’n rhaid i ni wneud hynny ein hunain. Os bydd angen help arnon ni, mi fydd rhaid i ni dalu amdano.

Mae pethau’n wahanol i weinidogion llywodraeth – maen nhw’n cael hawlio costau am dalu i rywun roi cyngor iddyn nhw.

Felly, heddiw, mae’r Daily Telegraph yn sôn am naw Ysgrifennydd Gwladol sydd wedi bachu ar y cyfle hwnnw – o’r Canghellor, Alastair Darling, i’r greadures or-siriol honno Hazel Blears. A dim jôcs Saesneg am gnau.

Gwneud yn siwr fod pethau’n iawn oedd rheswm swyddogol y Canghellor ond, mae’n amlwg, mai trio talu llai o dreth oedd y pwynt go iawn. Defnyddio ein harian ni i dalu llai i ni yn y pen draw.

Roedd hyn – fel arfer – o fewn y rheolau, sy’n dangos unwaith eto pa mor bell y mae Ty’r Cyffredin wedi symud oddi wrth y bobol y cafodd ei enwi ar eu hôl – y bobol gyffredin.

Dyna un sgandal – y llall ydi fod Darling yn gorfod cael help i lenwi ei ffurflen dreth. Os nac ydi o’n gwybod y rheolau, pam mae o yn y swydd?