Dylan Iorwerth yn ystyried rhai o’r oblygiadau posib o’r newyddion annisgwyl am S4C a’r BBC. Heb wybod y manylion, mae yna gwestiynau amlwg …

Dau gwestiwn mawr sy’n wynebu S4C heddiw – arian ac annibyniaeth. A’r hyn sydd ei angen gynta’ ydi atebion.

Yn ôl yr Aelod Seneddol Ceidwadol Guto Bebb – sydd hyd yma yn ei yrfa yn Nhŷ’r Cyffredin wedi bod yn agored a doeth – “cyfaddawd blêr” sy’n gyfrifol am y trefniant newydd tros arian S4C.

Y broblem gynta’ ydi mai cyfaddawd rhwng Ysgrifennydd Diwylliant  y Llywodraeth yn Llundain a’r BBC yn Llundain oedd hwnnw gyda phobol Cymru ac S4C ei hun yn y tywyllwch yn llwyr.

Dydi hi ddim yn glir eto beth ydi’r trefniant ariannol – toriadau o 6% ac wedyn dan adain y BBC, yn ôl Guto Bebb – ac, yn sicr, dydi hi ddim yn glir beth fydd y berthynas rhwng S4C a’r Gorfforaeth.

Mae yna ddau gwestiwn allweddol

Yn gynta’, pwy fydd yn rheoli maint cyllideb S4C? A fydd yna fformiwla ymlaen llaw neu a fydd y sianel yn gorfod ymladd ei chornel gydag adrannau eraill y BBC am ei chyfran o arian y drwydded?

Yn ail, pa mor annibynnol fydd y Sianel? Mae yna sôn am fyrddau ar y cyd a phethau tebyg, sy’n swnio fel y math o lanast a allai godi o ‘gyfaddawd blêr’. Yn sicr, does dim modd rhuthro newidiadau felly.

Beth bynnag fydd y trefniant gweinyddol ffurfiol, os bydd rheolaeth yr arian yn nwylo’r BBC yn Llundain, nhw fydd yn rheoli. Ac mi wyddon ni o brofiad y BBC yng Nghymru pa mor anodd yw hynny o ran hunaniaeth go iawn.

O ran rheolaeth, os na fydd annibyniaeth glir, o ran polisi golygyddol ac arian, mi fyddwn ni’n ôl bron iawn yn yr un sefyllfa ag yr oedden ni cyn 1982.

Oblygiadau eraill

Mae yna oblygiadau hefyd wrth gwrs i ddarlledu Cymreig yn gyffredinol. Mae yna beryg y byddwn ni’n ôl ynghanol brwydr adnoddau rhwng y gwasanaethau yn y ddwy iaith, yn enwedig o gofio bod y BBC yn gyffredinol yn wynebu toriadau anferth.

Mae’r toriadau wedi eu cuddio, ond maen nhw’n anferth er hynny.

Trwy osod S4C dan adain darlledwr arall, mae’r penderfyniad hefyd yn gwadu’r rôl ddiwylliannol ac ieithyddol allweddol sydd ganddi. Sianel deledu gyhoeddus gyffredin ydi hi bellach – neu ran o ddarlledwr cyhoeddus – nid cyfrwng diwylliannol pwerus.

Peryglon pendantrwydd

Mae Llywodraeth y Glymblaid – dan arweinyddiaeth amlwg y Ceidwadwyr – wedi dangos sut i weithredu’n benderfynol a phendant ar ôl cael grym.

Maen  nhw’n dangos beth allai Llywodraeth Lafur Blair fod wedi’i gwneud yn 1997 gyda’i mwyafrif anferth ac maen nhw’n amlwg yn credu yn y syniad bod rhaid gweithredu o fewn chwe mis i gael eich ffordd.

Y peryg eto ydi brys, a phenderfyniadau sy’n edrych yn dda ar y pryd ond sy’n creu problemau at eto. Mae’r Ysgrifennydd Diwylliant, Jeremy Hunt, wedi cael ei freuddwyd – toriadau gwario a gwthio S4C ar blât rhywun arall.

Ond mae’r penderfyniad – a’r modd y cafodd ei wneud, heb drafod yng Nghymru na gyda Llywodraeth y Cynulliad – am greu trafferthion mawr.