Dylan Iorwerth yn edrych ar rai o’r manylion o bleidlais arweinyddiaeth y Blaid Lafur

Llai na chwarter holl aelodau’r Blaid Lafur yng Nghymru a roddodd eu pleidlais gynta’ i’w harweinydd newydd, Ed Miliband, ac ychydig llai na hanner yr Aelodau Seneddol.

Oni bai am bleidlais yr undebau, fyddai’r cyn Ysgrifennydd Amgylchedd ddim wedi ennill y swydd hyd yn oed.

Dyna pam mai gwaith cynta’r arweinydd newydd fydd ennill trwch aelodau ei blaid ei hun ac wedyn tawelu ofnau pobol gwledydd Prydain ei fod ym mhoced y ‘brodyr’.

Hen stori ydi honno, wrth gwrs, ac mi fydd yn newid o’r cyhuddiadau bod Llafur – a’r Ceidwadwyr o ran hynny – ym mhocedi pobol fusnes gyfoethog.

Y manylion

Problem lawer mwy yw bod mwyafrif yr aelodau cyffredin a’r etholaethau eisiau rhywun arall. Os bydd pethau’n dechrau mynd o chwith, mi allai greu trafferthion.

Dim ond saith o’r 40 etholaeth yng Nghymru oedd wedi rhoi Ed Miliband yn gynta’, a rhai bychain iawn yn y Gogledd – fel Dwyfor Meirionnydd, Arfon ac Ynys Môn – oedd tair o’r rheiny.

O gyfri’r pleidleisiau dewis cynta’, mi gafodd David Miliband 3,625 yng Nghymru ac Ed Miliband 2,681. Roedd y sgôr ymhlith aelodau seneddol yn 13 – 10 i’r brawd lleia’.

O gyfri’r pleidleisiau ail ddewis, mi fyddai’r ddau fwy neu lai’n union gyfartal ymhlith ASau … ac yn hynny y mae’r cysur i Lafur.

David Miliband a'i frawd (Gwifren PA)
David Miliband a'i frawd (Gwifren PA)

Y cysur i Lafur

Doedd gan lawer o’r aelodau ddim llawer o wahaniaeth pa un ai David neu Ed a fyddai’n ennill. Mae’n ymddangos mai personoliaeth a phrofiad oedd sail eu dewis yn aml, nid polisïau.

O ran cyfeiriad y blaid, felly, does dim rhwyg anferth ac mae galw’r arweinydd newydd yn ‘Red Ed’ yn nonsens. Dyna fydd tacteg pleidiau’r glymblaid a’r papurau Ceidwadol ond mi fyddai sosialydd go iawn yn chwerthin neu grïo wrth weld y disgrifiad.

Mae’r ymateb tros yr oriau diwetha’ hefyd yn awgrymu bod y ddau frawd yn llawn ymwybodol o’r peryglon – mae’r berthynas rhyngddyn nhw’n rhoi min ar y gystadleuaeth ond hefyd yn debyg o’u sadio nhwthau hefyd.

Y ffigwr pwysig

Tros ffigwr arall y dylai’r Blaid Lafur oedi mewn gwirionedd. Wrth gyhoeddi manylion y bleidlais, mi gyhoeddodd hefyd faint o bapurau balot oedd wedi eu dosbarthu … faint o aelodau sydd ganddi.

Yng Nghymru, mae’r cyfanswm bellach i lawr i 11,160 – cyfartaledd o lai na 280 ym mhob etholaeth. Ond, o fewn y cyfanswm, mae yna amrywiaeth fawr, o 86 ym Maldwyn i 454 yng Ngorllewin Caerdydd.

Dim ond 89 sydd yna yn Nwyfor Meirionnydd ac mae’r cyfanswm yn Aberconwy, Arfon, Ceredigion, Gorllewin Clwyd ac Ynys Môn i gyd o dan 170.

Mae’n awgrymu bod Llafur yn colli’r gallu i gystadlu mewn rhai rhannau o’r wlad. Hi yw’r blaid fwya’ o hyd ond mae’n gymharol wan o ran trefniadaeth a grym gweithredu mewn sawl ardal.

Heb yr undebau llafur, mi fyddai llawer o’i gallu i drefnu a chodi arian yn mynd.