Dylan Iorwerth sy’n edrych ar y Gêmau Olympaidd yn Llundain…

O’r diwedd, ryden ni’n gwybod y gwir.

Con mawr ydi awgrymu fod y Gêmau Olympaidd yn rhywbeth i Gymru a gwledydd Prydain i gyd.

O gofio fod Pwyllgorau Dethol yn defnyddio geiriau’n ofalus a bod mwyafrif aelodau’r Pwyllgor Dethol Cymreig yn Llafur, maen nhw wedi mynd mor agos ag y medran nhw i ddweud ein bod yn cael ein twyllo.

Maen nhw wedi dweud yn glir fod Cymru’n golli degau o filiynau o bunnoedd oherwydd y Gêmau heb fawr o obaith o ennill dim o werth yn ôl.

Siawns nad ydyn nhw’n gwybod hefyd nad oes fawr o obaith cael unrhyw arian yn ôl wedyn – y peryg ydi y bydd rhaid i ni dalu eto er mwyn clirio’r golled.

A gwella safonau chwaraeon? I’r elît efallai. Ond, gyda llai o gyfleusterau chwaraeon a’r rheiny’n dirywio, mi fydd pobol gyffredin yn colli.

Sbort? Ydyn, maen nhw’n cael sbort ar ein pennau ni.