Llai na 50% yn gwybod mai Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am y GIG

 


Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Mae llai na hanner y bobl yng Nghymru yn gwybod mai Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am y Gwasanaeth Iechyd.

Dyna un o ganfyddiadau arolwg newydd a gomisiynwyd gan BBC Cymru i nodi 15 mlynedd ers sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol yn 1999.

Dywedodd 48% o’r rhai a holwyd eu bod nhw’n gwybod mai Llywodraeth Cymru oedd yn gyfrifol am y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, gyda 43% yn meddwl mai Llywodraeth y DU oedd yn gyfrifol.

Ond roedd gwell dealltwriaeth o addysg gyda 61% yn dweud yn gywir mai Llywodraeth Cymru oedd yn gyfrifol a 31% yn credu mai Llywodraeth Prydain oedd a’r cyfrifoldeb.

Traean yn gweld gwelliant

Ar y cyfan, canfu’r arolwg mai dim ond 34% o bobl sy’n teimlo bod datganoli wedi arwain at welliant yn y ffordd y caiff Cymru ei llywodraethu tra bod 46% yn meddwl nad yw’r Cynulliad wedi gwneud llawer o wahaniaeth i fywydau pobl Cymru.

Roedd 31% y credu mai’r de ddwyrain oedd wedi gweld y manteision mwyaf gyda dim ond 4% yn nodi  gogledd Cymru ac 1% yn nodi canolbarth Cymru.

Cafodd yr arolwg ei gomisiynu gan BBC Cymru.  Fe wnaeth ICM Research gyfweld  sampl ar hap o 1,004 o oedolion dros 18 mlwydd oed dros y ffôn rhwng 22 Mai a 1 Mehefin eleni.

Erthyglau perthnasol

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

1988-2018 Cylchgrawn Golwg yn 30 oed