Mae Llywodraeth San Steffan yn llawn “ofn a chasineb” tuag at bobl dlawd, yn ôl Liz Saville Roberts sy’n ymgeisydd Plaid Cymru yn sedd Dwyfor Meirionydd yn 2015.

“Mae llywodraeth y DU wedi dewis trywydd o wleidyddiaeth ofn a chasineb sy’n cosbi’r tlawd a chodi cywilydd ar y rhai sy’n profi’r anffawd o fod yn llai cyfartal nag eraill mewn cymdeithas sy’n sicrhau anghydraddoldeb fel nodwedd genedlaethol,” meddai wrth siarad yng Nghynhadledd Wanwyn y Blaid heddiw yng Nghaerdydd.

Ond mae Liz Saville Roberts yn euog o ragrith, yn ôl Aelod Seneddol y Ceidwadwyr dros Aberconwy.

Mae Guto Bebb yn ei chyhuddo o beidio â bod yn deg â chymunedau gwledig Gwynedd yn ystod ei chyfnod hi fel y cynghorydd â chyfrifoldeb dros addysg ar Gyngor Gwynedd.

“Mae’n rhyfedd clywed un a fu’n arwain y broses o gau ysgolion gwledig yn sôn am gydraddoldeb a chyfle teg i bawb,” meddai’r Tori.

“Doedd yna ddim o’r fath gyfle i gymunedau gwledig Gwynedd yng nghyfnod Liz Saville yn ddeilydd y portffolio addysg.  Gwerth am arian a thoriadau oedd yr unig neges.  Mae angen deryn glân i ganu.”