Anna ap Robert
Mewn blog gwadd, Anna ap Robert sy’n trafod cynlluniau difyr i godi ymwybyddiaeth o’r iaith Gymraeg ymysg myfyrwyr Coleg Ceredigion.

Yng Ngholeg Ceredigion, rydym yn awyddus i godi ymwybyddiaeth o’r iaith Gymraeg trwy gynnal digwyddiadau i’n myfyrwyr gael y cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol yn Gymraeg ac yn ddwyieithog.

Rhan o fy nyletswydd yn fy swydd, fel Ymgynghorydd yr Iaith Gymraeg yng Ngholeg Ceredigion, yw  trefnu gweithgareddau allgyrsiol a chymdeithasol ar gyfer y myfyrwyr sy’n hyrwyddo manteision y Gymraeg ym myd gwaith a bywyd bob dydd.

Mae ‘na amserlen lawn wedi ei threfnu sy’n cynnwys ymweliadau gan amrywiaeth o gwmnïau, unigolion proffesiynol a busnesau lleol.


Owain Schiavone yn gwneud cyflwyniad i fyfyrwyr T.G. Coleg Ceredigion
Heddiw cawsom y pleser o gwmni Owain Schiavone o Golwg360 wrth iddo ymweld â chriw o fyfyrwyr Technoleg Gwybodaeth y Coleg i sôn am ei yrfa a’i brofiadau fel Cymro Cymraeg sy’n byw ac yn gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg.

Bydd hefyd yn amlygu’r cyfleoedd sydd ar gael wrth ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol yn Gymraeg ac yn ddwyieithog ac yn sôn yn benodol am egwyddorion datblygu meddalwedd a chynnwys digidol trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg ochr yn ochr â fersiwn Saesneg.

Rhaglen amrywiol

Yn ddiweddar gwahoddwyd y ffotograffydd Keith Morris a fu’n cyflwyno ei waith i fyfyrwyr ffotograffiaeth, celf a dylunio a’r cyfryngau.

Yn ôl Keith “Ni fyddai’n bosib i mi wneud rhan fwyaf o fy ngwaith heblaw am y ffaith fy mod i’n gallu siarad Cymraeg.  Mae rhan helaeth o fy ngwaith yn dod gan gylchgronau Cymraeg fel Golwg, S4C a digwyddiadau diwylliannol Cymreig,” roedd hyn yn agoriad llygaid i nifer o fyfyrwyr na fyddai wedi ystyried pwysigrwydd y Gymraeg yn rhan o ddiwydiant ffotograffiaeth cyn hyn.

Ymysg ymwelwyr eraill bydd yr artist Ruth Jên yn dod i gynnal gweithdy gyda myfyrwyr celf y coleg fydd yn seiliedig ar Santes Dwynwen, Gweithdy Ioga i fyfyrwyr celfyddydau perfformio gyda Sue Jones Davies, Gweithdy Capoeira gydag Angharad Harrop, sesiwn gerddoriaeth gyda’r cerddor gyfansoddwr Rhys James sydd hefyd yn gitarydd i’r bandiau Mattoidz a Fflur Dafydd i enwi dim ond rhai.


Ed Holden yn gwneud gweithdy bit bocsio
Bydd yr adran arlwyo yn cael cyflwyniad gan Huw a Beth Roberts, perchnogion Gwesty Cymru ym mis Chwefror. Bydd yn gyfle gwych i fyfyrwyr gael holi cwestiynau ynglŷn â’u gweledigaeth fel busnes a sut maent yn mynd ati i gynllunio eu bwydlenni, a phwy yw eu darparwyr a pha mor bwysig yw  darparu gwasanaeth dwyieithog i’w cwsmeriaid.

I’r adran Celfyddydau Perfformio bydd y rapiwr a’r bît bocsiwr enwog Ed Holden AKA Mr Phormula yn dod i gynnal gweithdy.  Mae hyn yn enghraifft wych o’r posibiliadau a’r cyfleoedd sydd ar gael yn Gymraeg sydd hefyd yn apelio at bobl ifanc yn arbennig.

Ymwybyddiaeth yn allweddol

Gan ein bod yn cynnig ystod eang o gyrsiau mae hyn yn caniatáu i ni wahodd ystod eang o siaradwyr gwadd i’r darlithoedd yn ogystal.

Mae codi ymwybyddiaeth o’r iaith Gymraeg  yn rhan allweddol o’r hyn y mae Tîm Dwyieithrwydd y Coleg yn ei wneud.  Dwi’n gobeithio bod y sesiynau hyn yn codi ymwybyddiaeth myfyrwyr o fanteision y Gymraeg ond hefyd yn eu helpu i ddatblygu eu sgiliau iaith i siarad Cymraeg yn fwy hyderus o ddydd i ddydd.


Bŵt camp y tîm yn Llangrannog
Am y tro cyntaf erioed cynhaliwyd bŵt camp Cymraeg ar gyfer Staff y Coleg yn ystod yr Haf y llynedd.  Roedd yn gyfle i staff gymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol yn Gymraeg dros ddeuddydd yn Llangrannog.  Roedd y deuddydd yn llawn i’r ymylon o weithgareddau amrywiol o goginio pice mân i ddrama ac o gwrs rhaffau uchel i ioga, a’r cwbl yn Gymraeg!

Ein bwriad oedd cynnal cwrs preswyl a fyddai’n rhoi cyfle i staff y Coleg sy’n ddysgwyr neu’n siaradwyr Cymraeg i ddod at ei gilydd mewn lleoliad ac awyrgylch anffurfiol er mwyn datblygu eu sgiliau iaith a meithrin hyder i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu gwaith bob dydd.

Dull effeithiol ar gyfer dysgu iaith yw trwy gyfrwng drama.  Cynhaliwyd gweithdy drama a oedd yn cael ei gyflwyno yn Gymraeg ac a oedd yn cyflwyno geiriau, ymadroddion a thermau Cymraeg trwy gydol yr amser. Cyflwynwyd tasg o greu sgets yn seiliedig ar chwedl leol – Chwedl Beca.

Roedd hyn yn ffordd o gyflwyno ychydig o hanes a diwylliant lleol i’r dysgwyr yn ogystal â chyfle iddyn nhw ddyfeisio golygfa trwy gyfrwng drama yn seiliedig ar y stori.  O ganlyniad byddai’r dysgwyr nid yn unig yn dysgu am y diwylliant Cymreig ond byddent hefyd yn dysgu sgiliau iaith ar yr un pryd.

Nod y cynllun hwn yw codi ymwybyddiaeth a phroffil yr iaith a’r diwylliant Cymraeg fel rhywbeth byw a hollbresennol yn y Coleg a thu hwnt.