Kane Price, chwith, ac Ashley Farrow Llun: PA
Mae dau lanc yn eu harddegau wedi cael eu hanfon i ganolfan troseddwyr ifanc ar ôl ymosodiad difrifol a wnaeth adael dyn digartref mewn coma a’i ddallu mewn un llygad.

Fe wnaeth Kane Price, 15, ac Ashley Farrow, 18, ymosod ar Vladimir Kazlausks, 54, ar lwybr tanddaearol yng Nghasnewydd ar Fai 8 y llynedd, a’i adael “i farw” mewn pwll o waed.

Yn Llys y Goron Caerdydd heddiw, fe ddywedodd y barnwr Mr Ustus Jay, fod y dystiolaeth yn erbyn y ddau fachgen yn hollol amlwg, er bod y ddau yn pwyntio bys at ei gilydd.

Roedd Vladimir Kazlausks, sy’n wreiddiol o Latfia, yn ddigartref ar adeg yr ymosodiad ac yn ôl y barnwr, roedd yn “darged hawdd” i’r bechgyn.

Dywedodd y barnwr nad oedd y ddau wedi dangos unrhyw edifeirwch.

Cyhoeddi enwau

Er eu hoed ifanc, fe benderfynodd y barnwr godi’r gwaharddiad ar gyhoeddi enwau’r ddau fachgen yn yr achos, gan ddweud fod “gan y cyhoedd hawl i wybod pa mor ddifrifol oedd y drosedd.”

Roedd yn cymryd i ystyriaeth y ffaith fod y ddau fachgen wedi mynd i frolio i’w ffrindiau eu bod wedi “lladd rhywun.”

Dywedodd y barnwr, pe bai Price a Farrow yn oedolion fe fyddai wedi eu carcharu am 15 mlynedd.

Bydd Kane Price o Gasnewydd yn treulio saith mlynedd  a hanner mewn canolfan troseddwyr ifanc ac Ashley Farrow yn treulio chwe blynedd mewn canolfan troseddwyr ifanc.