Alex Jones
Mae Achub y Plant yn galw ar bobl Cymru i wneud gwahaniaeth i bobl ar draws y byd drwy gymryd rhan yn y traddodiad o wisgo siwmper Nadolig liwgar a chyfrannu £1 am gael gwneud.

Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio gan yr elusen i barhau a’i gwaith o weithio gyda phlant ar draws y byd.

Ac mae ‘na selebs eisoes wedi rhoi eu cefnogaeth i’r Diwrnod Siwmper Nadolig ar ddydd Gwener, Rhagfyr 13, gan wisgo’u hoff siwmper ar gyfer llun.

Yn eu plith mae’r gyflwynwraig Alex Jones, sy’n cael ei holi isod, y canwr Al Lewis, y band Swnami, yr awdures Bethan Gwanas, a’r DJs Geraint Lloyd a Dyl Mei.

Gallwch brynu eich siwmper o siop John Lewis, partner manwerthu swyddogol Diwrnod Siwmper Nadolig. Am bob un o siwmperi Achub y Plant fydd yn cael ei gwerthu, bydd yr elusen yn derbyn £25.

Holi Alex Jones am ei hatgofion o’r Nadolig

Beth yw dy hoff atgof o’r Nadolig?

“Fy hoff atgof o’r Nadolig yw cael bwrdd harddu yn anrheg. O’dd pawb arall ishe roller skates a beiciau a doliau, ac na’i gyd o’n i ishe oedd bwrdd harddu a sychwr gwallt. Mi gyrhaeddodd yn y bore, ac fe eisteddes ar ei bwys e drwy’r dydd. Nes i hyd yn oed fyta fy nghinio Nadolig arno fe.”

Beth yw’ch hoff gân Nadolig?

“Fy hoff gân Nadolig ydy un Mariah Carey’s ‘All I want for Christmas is you.’ Er, mi wnes i ei ganu mewn carioci unwaith – byth eto! Rhy uchel o lawer!!”

Beth yw’ch hoff fwyd Nadolig?

“Fy hoff fwyd Nadolig ydy pannas wedi eu rhostio siŵr o fod. Fel arfer wy’n cael tua tri, ond dim mwy na hynny.”

Beth yw rhan orau tymor y Nadolig i ti?

“Mae’r tymor Nadolig yn dechre i fi ym mis Hydref – y diwrnod mae’r clociau’n mynd nôl. Mae’r sherri’n dod mas, a’r mins peis ‘fyd, ac mae’n Nadolig am y ddeufis a hanner nesa”.

Beth wyt ti’n ei obeithio y daw Sion Corn i ti eleni?

“Wy’n gobeithio y daw Sion Corn a dyddiadur i fi, wastad yn handi. A lot o bethau bach eraill. A bod yn onest, sai’n ffysi iawn, wy’n hapus ‘da unrhyw beth. Ma unrhyw beth yn fonws yr oed ‘ma!”

Am fwy o wybodaeth ac i gofrestru ewch i www.christmasjumperday.org.uk