Murlun Siartwyr Casnewydd, cyn ei chwalu
Mae cymdeithas gadwraeth wedi cyhuddo CADW o ‘ddiffygion difrifol’ ynglŷn â’i benderfyniad i wrthod cais i wneud murlun poblogaidd yng Nghasnewydd yn adeilad rhestredig.

Mae Cymdeithas yr Ugeinfed Ganrif wedi ysgrifennu at Weinidog Treftadaeth Llywodraeth Cymru, John Griffiths, yn amlinellu ei phryderon ynghylch penderfyniad CADW ym mis Medi eleni.

Roedd y penderfyniad yn rhoi rhwydd hynt i Gyngor Casnewydd chwalu’r murlun mosaic o Siartwyr Casnewydd ar 4 Hydref er mwyn gwneud lle i ganolfan siopa newydd.

Yn ôl Cyngor Dinas Casnewydd roedd yn rhaid symud y wal a’r murlun er mwyn gwneud gwaith hanfodol i safle’r ganolfan siopa newydd cyn diwedd mis Hydref.

Roedd y cyngor eisoes wedi dweud y byddai’n costio £600,000 symud y murlun sy’n portreadu protest y Siartwyr yn y ddinas yn 1839. Roedd y gwaith celf wedi ei greu gan Kenneth Budd a’i ddadorchuddio ger Sgwâr John Frost yn 1978.

Y ddadl yn erbyn CADW

Mae Cymdeithas yr Ugeinfed Ganrif, sydd wedi’i leoli yn Llundain, wedi cyhuddo CADW o “fethu â dilyn cyngor a chyfarwyddyd ei hun”.

Ac maen nhw hefyd yn honni mai £346,000 fyddai cost symud y murlun yn ei gyfanrwydd i safle arall.

Dywed cyfarwyddwr y gymdeithas, Catherine Croft, yn y llythyr ei fod yn bryderus iawn am benderfyniad Cadw i wrthod y cais i restru’r murlun fyddai wedi ei achub rhag cael ei ddymchwel.

“Mae asesiad rhestru Cadw yn dweud y gall darnau celf ar adeiledd gael eu rhestru ar wahân,” meddai Catherine Croft.

“Felly mae’n ymddangos i ni… fod Cadw wedi methu â dilyn ei gyngor a’i gyfarwyddyd ei hunan.

“Mae’r ffaith nad oes hawl apelio yn erbyn penderfyniadau rhestru eich sefydliad yn ychwanegu at y broses hollol anfoddhaol… ac yn ddiffygiol.”

Ychwanegodd Catherine Croft fod y gymdeithas hefyd yn bryderus ynghylch oblygiadau ariannol symud y murlun i leoliad arall.

“Mae’n ymddangos i ni fod y sefydliad wedi derbyn dadlau ariannol y cyngor yn ddiamheuol.”

Adroddiad ymgynghorol

Mae’r gymdeithas wedi arolygu adroddiad ymgynghorol ynghylch symud y murlun gafodd ei wneud gan gwmni Mann Williams i’r cyngor.

Dywed Catherine Croft: “Mae’r ffi ‘adleoli’ o £600,000 yn cynnwys storio ac ail-osod y darn celf.

“Rydym yn nodi yn ôl ffigyrau Mann Williams y byddai’r gost o symud y murlun yn £346,000.”

Ychwanegodd Catherine Croft ei bod am sicrhau na fyddai weithred o’r fath yn digwydd eto.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y byddai’r Gweinidog yn ymateb i’r llythyr erbyn canol mis Tachwedd.