Y dorf yn gwylio Edward H Dafis nos Wener

Dylan Iorwerth sy’n blogio am ei brofiadau yn ystod wythnos yr Eisteddfod yn Ninbych.

Nos Fawrth

Sipwyr Cêt … noson y beirdd yn y Clwb Rygbi. Dim ond awr a hanner yn hwyr oedden nhw’n dechrau.

Noson deyrnged i Kate Roberts a llenorion eraill yr ardal oedd hi a’r cyfraniadau’n amrywio o’r cynnil (e.e. Arwyn Groe ar ddiffyg enwogion Dinbych, Llyr Lewis ag obsesiwn am T.Gwynn Jones ac Ifan Prys, efo enwau go iawn rhai o’r beirdd) i berfformiad rhyfeddol Gwyneth ‘Kate’ Glyn ac Aneirin ‘Saunders’ Karadog … bardd plant Cymru. Digon ydi deud fod y gwersi addysg rhyw yn eitha’ diogel hefyd.

Dydd Mercher

Hen draddodiad wedi ei atgyfodi … ciwiau hir y tu allan i doilets y merched. Roedd hynny’n arfer bod yn gymaint o ran o’r Eisteddfod â’r Pafiliwn ei hun. Ond pam na all merched cael toilets agored fel dynion … rhes o orseddau di-giwbicl … ac arbed lot o amser? Mae angen cydraddoldeb.

Problemau traffig o fath newydd yn yr Eisteddfod. Hanesion fod cyn Archdderwyd yn mynd fel y cythrel mewn bygi i bobol ag anableddau. Nid gwahardd na cyfyngiadau cyflymder ydi’r ateb chwaith, ond gwahodd Robyn Lewis i wneud arddangosfa yn Llanelli y flwyddyn nesa’ … fel y bois yna ar eu motobeics yn y Sioe Fawr. Whilis dros Gymru.

Dadlau wedi dechrau am gynnwys Saesneg mewn gweithiau celf yn yr Eisteddfod. Geiriau Saesneg yng ngwaith enillydd y Fedal Aur a hyd yn oed mewn llun o sgrifen gan Iwan Bala (enillydd gwobr wladgarol Ifor Davies). Problem arall … a ydi’r beirniaid yn ddigon hyddysg yn y Gymraeg i adnabod cyfeiriadau diwylliannol?

Nos Fercher – angen mwy na Meic

Roedd nodau Dic Penderyn yn yr awyr pan gyrhaeoddon ni Neuadd y Dre’. Meic Stevens yn canu efo Anthony Griffiths ar y gitêr a Ci ar y bas.

Potel ddŵr, nid gwin, yn ei law ar ôl ei salwch a’r gwallt bron iawn yn glaerwyn. Y llais yn eitha cry, ond ddim yn ddigon cry i foddi’r swn diawledig yn y neuadd. Pobol reit yn y ffrynt yn gweiddi siarad a Meic yn edrych yn ddigalon.

(Roedd ein cenhedlaeth ni’n ofnadwy am siarad mewn gigs, ond mae pethau’n mynd yn waeth. Ydi’r gred fod pobol yn gallu edrych ar y teledu, gwrando ar y radio a ffonio yr un pryd yn gweithio trwodd i’r byd cerddorol.)

Toni Schiavone oedd yr arwr yn y diwedd, yn gwneud y peth anodd o fynd i’r llwyfan i ofyn am dawelwch. Mi gafodd hynny ac mi weddnewidiodd y noson … Meic yn mwynhau, pawb yn cydganu a’r clasuron yn llifo.

Roedd y sŵn yn ôl erbyn i Plu ganu ond doedd o ddim yn ddigon i sbwylio’r harmonïau clos a chyfraniad mawr arall at atgyfodiad canu gwerin Cymraeg.

Dydd Iau

Llai o ruthro. Cyfle i edrych ar ambell i stondin. Llyfrau ail-law wrth reswm. Un efo llofnod David Lloyd George ac un gyfrol gan R S Thomas nad o’n i wedi clywed amdani o’r blaen. Ond penderfynu bod gormod o lyfrau heb eu darllen eisoes …

Ro’n i wedi cymryd rhan mewn sesiwn ddoe am ddyfodol y wasg brint … yr ymateb yn annisgwyl. Lot o bobol wedi mwynhau er ei bod hi wedi mynd yn dding-dong rhwng y ddau Fonwysyn, Gwilym Owen a Vaughan Hughes. Dyfodol y wasg brint mor niwlog ag erioed.

Penderfynu cael chydig o ddiwylliant … mynd i weld dramâu. Dwy am Kate Roberts gan Theatr Bara Caws, yn Theatr Twm o’r Nant, adeilad annisgwyl o fawreddog yr olwg yng ngwaelod y dre’.

Un ddrama oedd ‘Cyfaill’ gan Francesca Rhydderch, yn codi o gyfeillgarwch rhwng Kate Roberts a gwraig yn yr Almaen … ond drama oedd hi mewn gwirionedd am golli a galar ac am lwyddiant neu fethiant i ymdopi â hynny.

Mae hi’n rhoi golwg newydd ar Kate … yn benderfynol a bregus yr un pryd, yn galed ond eto’n ansicr … a gwahanol weddau ar hynny’n cael ei adlewyrchu yn yr Almaenes hefyd.

Wedyn Te yn y Grug … addasiad newydd gan Manon Williams o’r straeon. ‘Cynhyrchiad syml’ meddai’r theatr ei hun a dyna oedd ei angen. Ond mae yna fwy iddo fo na hynny hefyd.

Y perfformiad canolog ydi un Manon Wilkinson yn rôl Winni Ffini Hadog. Mae ganddi’r gallu i gyfleu grym a gwendid, sicrwydd a diffyg hyder, rhywioldeb oedolyn a breuder plentyn. I raddau, roedd hynny i’w weld yn ‘Cyfaill’ hefyd, lle’r oedd hi’n actio merch yr Almaenes, a ddaeth draw i Ddinbych at Kate.

A dyna oedd yn dda – roedd yna adleisiau rhwng y ddwy ddrama, o ran symudiadau ac edrychiadau, ac ambell i frawddeg hefyd. Dyna pam ’mod i eisio’u gweld nhw eto …

(Un nodyn – pam fod actorion gwrywaidd Cymraeg yn troi’n edlychod hanner wrth actio bechgyn bach o ardal y chwareli? Qv sawl cynhyrchiad o bethau fel Un Nos Ola Leuad. Felly, ar ôl pefformiad cry iawn yn ‘Cyfaill’ (yn actio rheolwr y wasg) mae Rhodri Sion yn Te yn y Grug yn dechrau gwneud mosiwns rhyfedd, yn cerdded yn rhyfedd ac yn gwneud edrychiadau rhyfedd. I’r gwrthwyneb, roedd Fflur Medi Owen yn rhan Begw yn naturiol a hudolus)

Dydd Gwener

Diwedd y daith bron iawn, ond un dasg fawr yn aros … cyfarch bardd y gadair. Mewn gwewyr – prin wedi sgwennu dim ers mis Mawrth y llynedd a’r arfau’n fwy rhydlyd nag arfer. Ar ben hynny, tydach chi ddim yn cael gwybod pwy sy’n ennill, hyd yn oed ar y funud ola’. Trio gwneud rhywbeth cyffredinol, ond shimpil iawn.

Cerdded i mewn efo’r gyfarchwraig, Dorothy Jones Llangwm, a’r ddau ganwr. Rhys Meirion yn hymian rhywbeth dan ei wynt. Ddim yn swnio fel cân y cadeirio ond be wn i.

Tydw i ddim yn or-hoff o ddillad yr Orsedd ond Meistres y Gwisgoedd yn glên iawn ac yn garedig at ddyn sy’n edrych fel Kermit efo sbectol o dan yr amdo gwyn.

Y feirniadaeth … o dipyn i beth, mae’n dod yn amlwg na fydd yna Gadeirio. Anferth o benderfyniad anodd i feirniaid – mae yna lot o bwysau (nid gan yr Eisteddfod ond oherwydd disgwyliadau pobol). A ddylwn i ddiolch nad y tri yma oedd wrthi’r llynedd?

O leia’ does dim rhaid darllen y cyfarchiad tila … ac nid allan o diwn oedd Rhys Meirion.

Edward H

Ar ôl dyddiau o ddisgwyl a phob math o straeon gwirion, mi ddaeth yr awr fawr. Edward H yn canu eto. Cymysgedd ddiddorol o bobol yno, o blant bach bach i blant mawr mawr. Y rhai mawr oedd y gwiriona’.

Prin sylwi eu bod wedi dechrau – y PA yn wan. PA yn wan beth bynnag, meddai’r gwybodusion, a’r Eisteddfod yn ofni amharu ar y Pafiliwn. Y sŵn yn codi wrth i’r noson fynd yn ei blaen a’r gig yn gwella. (Nid fod Edward H erioed wedi canu mewn gig).

Gweld Llion Jones, y trydarwr trawiadau. Roedd o wrthi (yn trio trydar).

Pa sens mewn cael grŵp o sêr

A PA heb ddim pwer?

Piti na fasa honna i mewn am y Gadair. Ond oherwydd yr holl fynd ar y ffonau symudol, doedd y neges ddim yn cael ei hanfon. Braidd fel fy nghyfarchiad innau.

Toeddan nhw ddim cystal, wrth reswm, ond roedd y co’ yn llenwi’r bylchau a phawb yn cyd-ganu beth bynnag. Digwyddiad yn fwy na gig.

Dydd Sadwrn

Y peth mawr ydi’r sesiwn panel holi i ddathlu pen-blwydd Golwg yn 25. Tri o’r colofnwyr ar y panel – Angharad Mair, Alun Wyn Bevan y dyn rygbi, Mari Jones Williams (yr Hogan Wyllt gynt a Rupert Murdoch Penllyn h.y. perchennog newydd papur y Cyfnod).

Mynd yn ddigon hwyliog a phobol yn ymuno o’r gynulleidfa i roi barn – diolch i rai fel Geraint ‘Twm’ Trefor, yn fachog fel arfer. Gwyl Golwg fydd nesa, rhwng 5 a 7 Medi … nid brolio ydi’r pwrpas ond mae’r cyfan gobeitho yn dangos fod Golwg wedi gwneud cyfraniad i fywyd trwy’r Gymraeg, ac yn dal i wneud.

HELP!

Ond roedd yna gwmwl … mae fy nghamera a fy nghyfrifiadur wedi diflannu o stafell y wasg. A ydi fy anghofrwydd/didoreithdra wedi mynd cynddrwg fel fy mod yn anghofio be wnes i efo nhw. Ond ro’n i wedi eu gadael yno i fynd i Edward H a heb symud oddi yno. Ac roedd y swyddfa wedi ei chloi. Dwyn? Nage, gobeithio. Ond os oes yna rywun wedi gweld cyfrifiadur Toshiba mewn ces du a chamera Canon mewn bag bach llwyd a du, plis dywedwch. Nid y peiriannau sy’n bwysig ond y pethau sydd arnyn nhw … yn benna’ lluniau sawl taith ac ambell i ddarn o farddoniaeth.

Tydw i ddim yn llwyddo i sgwennu’n aml ac mae’n biti i’r cwbl lot fynd yr un fordd â’r cyfarchiad.