Cyw cog (Per Harald Olsen CCA 3.0)
Un o ddigwyddiadau mawr papur y Times erstalwm oedd y llythyr cynta’ i sôn am glywed y gwcw.

Hyd y gwn i, dyma’r blog cynta’ i ddweud ei bod hi wedi cyrraedd Cymru eleni.

Neithiwr – nos Wener 19 Ebrill – uwchben Llanybydder, roedd o leia’ un aderyn yn ôl ac yn canu nerth ei big.

Maen sawl un yn dod i’r ardal bob blwyddyn – y llynedd, mi glywson ni un am y tro cynta’ ar 15 Ebrill.

Yn Sir Gaerfyrddin y mae’r goedwig fach lle’r oedd o ac mae’n ymddangos ei fod o wedi curo cogau Ceredigion sydd wedi cael eu tagio gan yr Ymddiriedolaeth Ornitholegol.

Yn ôl eu gwefan nhw, dim ond un o’r Cardis – Dafydd – sydd o fewn cyrraedd. Ddydd Mercher, roedd o’n gorffwys yn Extremadura, Sbaen, ar ôl hedfan ar draws y Sahara.

Wrth gwrs, mae’n bosib ei fod o wedi cyrraedd erbyn hyn achos maen nhw’n gallu hedfan cannoedd o filltiroedd mewn diwrnod.

Yn ôl yr Ymddiriedolaeth, sydd wedi tagio pum cwcw o Geredigion, roedd Dafydd – yn anffodus, David y maen nhw’n ei alw fo – wedi aros am ychydig yn yr anialwch, efallai oherwydd llwch neu wynt.

Mae’n ymddangos mai dim ond un arall o’r pump sy’n dal i fod yn fyw ac mae Llwyd yn dal i lusgo’i draed yn yr Arfordir Ifori.

Dylan Iorwerth