Golygydd Gyfarwyddwr Golwg, Dylan Iorwerth, sy’n ymateb i gwestiynau sydd wedi codi ynglŷn ag erthygl ddiweddar ar Golwg360.

Mae yna sylwadau wedi bod am stori Golwg360 am Dalwrn y Beirdd a ‘streic’ rhai o’r cyfranwyr.

Roedd yna sylw arall yn sôn am godi sylw oddi ar ‘Facebook’ mewn teyrnged i’r diweddar Enid Jones, yr athrawes o  Harlech.

Mae’n bwysig ateb, gan fod y cwestiynau’n ymwneud â newyddiaduraeth yn y byd digidol. Er eu bod nhw, mewn gwirionedd, mor hen â newyddiaduraeth ei hun.

A oedd y beirdd yn hapus?

A chymryd stori Talwrn y Beirdd. Mae yna ddau benderfyniad allweddol fan hyn.

  • Un gan berson oedd yn rhan o’r gadwyn negeseuon a oedd yn amlwg yn teimlo y dylai’r drafodaeth fod yn wybodaeth gyhoeddus.
  • Roedd y llall gan Golwg 360 yn penderfynu cyhoeddi stori – am y penderfyniad hwnnw y mae Golwg360 yn gyfrifol.

Penderfyniad rhywun i roi gwybodaeth i’r wasg neu’r cyfryngau ydi sail y rhan fwya’ o straeon (ar wahân i rai PR). Does dim yn sylfaenol wahanol rhwng gollwng gwybodaeth am lythyr neu drafodaeth ar lafar a gollwng gwybodaeth o drafodaeth e-bost.

Mae hynny wedi digwydd erioed ac yn sail i lawer o straeon y byddai Aneirin a Geraint siŵr o fod yn eu clodfori – heb i neb ofyn caniatâd. Go brin y byddai’r un stori o sylwedd yn cael ei chyhoeddi fyth pe bai hynny’n digwydd.

Dw i’n poeni am Geraint – o ddefnyddio’r pren mesur sydd ganddo, ddylai o ddim darllen yr un papur na gwrando ar yr un bwletin newyddion fyth eto.

Er fod llawer o bobol fel petaen nhw’n credu hynny, nid gwaith y wasg Gymraeg ydi cuddio gwybodaeth anghyfleus rhag ein darllenwyr. Siawns nad oes gan y gynulleidfa hawl i wybod be sy’n digwydd.

Roedd Golwg360 yn ystyried cyhoeddi stori’n dweud fod y beirdd wedi penderfynu bod y streic ar ben  pan ddaeth hi’n  amlwg nad oedd llawer o’r beirdd yn cytuno â hynny. Be ddylen ni ei wneud – cyhoeddi’r wybodaeth neu gyhoeddi celwydd?

Facebook – math newydd o gyhoeddi

Mae’r pwynt arall – am godi dyfyniad neu wybodaeth o Facebook – yn llawer symlach. Dull o gyhoeddi ydi Facebook – boed i nifer gyfyngedig neu i bawb.

Yn yr achos yma, y nod oedd defnyddio’r dyfyniad i dalu teyrnged i wraig oedd yn dymuno hynny – yn union fel y mae dyfyniadau wedi cael eu codi at bwrpas tebyg o bob math o gyhoeddiadau eraill.