Mae’r berthynas rhwng llywodraethau’r Deyrnas Unedig dan straen, a dyw hi erioed wedi profi’r fath bwysau o’r blaen.

Dyna farn Pete Wishart, Aelod Seneddol SNP a Chadeirydd Pwyllgor Dethol Materion yr Alban yn San Steffan.

Yn ystod dadl yn Nhŷ’r Cyffredin i nodi 20 blynedd ers dechrau datganoli, mae’r Aelod Seneddol wedi rhybuddio bod “yn rhaid i bethau newid yn sylweddol” yn wyneb Brexit.

Ac mae wedi galw am berthynas cydradd rhwng llywodraethau’r Alban, Cymru, Gogledd Iwerddon – pan fydd ganddyn nhw lywodraeth – a San Steffan.

“Dyw’r berthynas rhwng y llywodraethau ddim wedi bod o dan y fath bwysau erioed,” meddai. “Mae Brexit wedi eu herio, a bron a bod wedi lladd y berthynas yn llwyr…

“Er bod datganoli wedi newid dyw’r ffordd yr ydym yn trafod ddim wedi newid. Ar lefel is – rhwng gweision sifil, er enghraifft – mae’r pethau’n dal i fod yr un peth.”

“Ewyllys y bobol”

Un o’r rheiny a gyfrannodd at y ddadl oedd Aelod Seneddol Sir Fynwy, David TC Davies, ac yn ystod y sesiwn mi rannodd ei deimladau am ddatganoli.

Mi wrthwynebodd Cynulliad i Gymru yn refferendwm 1997, ond bellach mae’n teimlo na fyddai’n gwrthwynebu’r sefydliad “yn iawn o gwbl”.

“Mi gollom,” meddai’r Ceidwadwr, “ond fel democrat roeddwn yn teimlo ei fod yn bwysig parchu ewyllys pobol Cymru.”

Mae David TC Davies o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd ac yn credu y dylai canlyniad refferendwm 2016 gael ei barchu.