Gethin Matthews, Darlithydd Hanes gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym Mhrifysgol Abertawe yn trafod milwyr Cymraeg yn y Dwyrain Canol yn y Rhyfel Mawr

Roedd y Rhyfel Byd Cyntaf yn rhyfel byd-eang a gludodd filiynau o bobl ifanc i ffwrdd o’u cartrefi i wledydd tramor. Yn aml chwiliai’r dynion hyn am angor i’w helpu i ymgyfarwyddo â’r mannau newydd y cawsant eu hunain ynddynt wrth iddynt geisio cyfleu eu profiadau i’w teuluoedd. Yn achos y Cymry a gafodd eu hunain yn yr Aifft a Phalesteina, roedd ganddynt eirfa a ddeuai yn syth o’r Beibl i ddisgrifio’r gwledydd hyn. Roedd y  syniad am ymgyrch yng ngwlad yr Iesu yn taro tant gyda phapurau newydd a’r sawl a ddylanwadai ar  bobl yn ôl yng Nghymru, gan ffurfio syniadau a arhosodd gyda’r cyhoedd Cymreig.

Roedd mwy na 4,000 o eglwysi anghydffurfiol ar waith yng Nghymru yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. I raddau helaeth capeli a ffurfiai ddiwylliant y cyfnod a bu eu hysgolion Sul yn ddylanwad mawr ar ddatblygiad meddyliau ieuenctid ar draws Cymru.

Wedi dechrau’r rhyfel yn Awst 1914, cefnodd y mwyafrif o weinidogion a chynulleidfaoedd ar eu gwrthwynebiad moesol i ymladd, gan dderbyn y ddadl mai ‘rhyfel cyfiawn’ ydoedd. Felly, roedd hi’n naturiol iddynt gefnogi mewn gweddi a llythyrau y gwŷr o’u cynulleidfaoedd a ymunodd â’r Fyddin.

Aeth llawer o’r dynion hyn i’r Dwyrain Canol i ymladd – yn enwedig y rhai a wasanaethai gyda’r  53rd (Welsh) Division a ddihangodd i’r Aifft wedi methiant ymgyrch Gallipoli (yn Nhwrci heddiw) ar ddiwedd 1915. Felly am y tair blynedd nesaf derbyniai cymunedau yng Nghymru newyddion o fannau oedd yn gyfarwydd iddynt o’u Beiblau.

Hen lun o nifer o filwyr o flaen y Sffincs yn yr Aifft

Dai Rees Thomas (ar y chwith) a Richard Eustis (canol), dau löwr o Dreboeth, Abertawe, gyda chyfaill o flaen y pyramidau yn Giza, Yr Aifft, Ionawr 1916. Diolch i Pamela John.

Yn yr Aifft cawsai’r milwyr gyfle i ymweld â mannau cyfarwydd ac yn aml byddent yn danfon adre lun ohonynt hwy eu hunain yn eistedd ar gamel gyda’r Sphinx a’r Pyramid Mawr yn gefndir. Ond hefyd   manteisient ar y cyfle i weld mannau y buont yn darllen amdanynt yn y Beibl. Danfonodd  Thomas Lewis, Pentraeth (Ynys Môn) lythyr adre yn disgrifio ‘Capel y Forwyn’ ym Mataria (lle dywedir fod Joseph, Mair a Iesu wedi gorffwys) wrth ffoi i’r Aifft.

Yna wrth i Luoedd yr Ymerodraeth Brydeinig symud ar draws anialwch Sinai, roedd y milwyr yn ymwybodol eu bod yn croesi’r lle y tramwyodd Moses a’r Israeliaid. Ysgrifennodd Thomas Apsimon (swyddog gyda’r R.A.M.C. – y corfflu meddygol) nifer o erthyglau ar gyfer y cylchgrawn dylanwadol Cymru wrth deithio yn yr Aifft a Phalesteina, gan anfon ffotograffau nôl i’w darlunio. Fe nododd fod llawer o’i gyd-swyddogion yn darllen Genesis ac Exodus er mwyn ymgyfarwyddo â daearyddiaeth y tiroedd Beiblaidd.

Mintai o Arabiaid
Ffotograff Thomas Apsimon o ‘Arabiaid yr Anialwch’, Cymru, Gorffennaf 1917.

Fodd bynnag, wrth iddynt groesi i ‘Wlad yr Addewid’, fe gynyddodd y sylw gan y milwyr. Roedd y rhai a drwythwyd yng ngwersi’r Ysgol Sul yn cyfeirio at agosáu at ‘Wlad y Llaeth a’r Mêl’ gan ddefnyddio’r termau Canaan a Philistia i gyfeirio at eu lleoliad. Defnyddiodd o leiaf un milwr ei wybodaeth ysgrythurol i osgoi crafangau’r sensor. Gan wybod na chawsai enwi Gasa, lle’r ydoedd, dywedodd Sam Johnson o Gynwyl Elfed wrth ei deulu i droi  at bennod 16 Lyfr y Barnwyr i weld lle chwalodd Samson y deml (adn. 1 ‘…aeth Samson i Gasa…).

Yn dilyn trydedd brwydr waedlyd Gasa ddiwedd Hydref / dechrau Tachwedd 1917, rhuthrodd milwyr yr Ymerodraeth Brydeinig tua thiroedd y Testament Newydd. Felly ysgrifennai’r milwyr Cymreig adre yn llawen yn dweud wrth eu hanwyliaid  iddynt weld Bethlehem a Jerwsalem. Danfonodd rhai, megis Evan Samuel Rees o Dreboeth, gofnod o’i deithiau ar draws y Dwyrain mewn lluniau.

Llun o bell o Bethlehem adeg y Rhyfel Mawr
Ffotograff o ddinas Bethlehem gan Evan Samuel Rees, glöwr o Dreboeth, Abertawe, a dynnwyd ym mis Chwefror 1918. Mae’r ‘X’ yn dangos y man lle ganwyd Iesu. Gyda diolch i Christian Evans

Mae rhai o’r lluniau yn llawn emosiwn. Wrth iddo ymweld â mannau cysegredig yn Jerwsalem, mae Sam Davies o Fetws-y-Coed, Gwynedd, yn cofio fel y disgrifiai ei ddiweddar fam y mannau hyn iddo pan oedd yn blentyn. Tystiodd fod ei disgrifiadau yn cytuno â realiti’r sefyllfa, a daeth geiriau’r emyn Cymraeg, Pen Calfaria yn ôl i’w gof :

Dringo’r mynydd ar fy ngliniau

    Geisiaf, heb ddiffygio byth;

Tremiaf drwy gawodydd dagrau

    Ar y groes yn union syth:

          Pen Calfaria

    Dry fy nagrau’n ffrwd o hedd.

Er bod rhai o’r milwyr wedi eu siomi yn yr hyn a welsant, gan ddweud wrth y bobl gartre  bod Jerwsalem yn dre mor frwnt a gwybedog ag unrhyw dre arall yn y Dwyrain, ar y cyfan gweledigaeth ysgrythurol, ddelfrydol, o Wlad yr Addewid oedd yn dominyddu ymhlith milwyr Cymreig.

Danfonwyd un llythyr o ‘Wlad yr Addewid’ gan Griffith John Thomas ar 9 Ionawr 1918, sy’n nodweddiadol o’r rhai a ddisgrifia ymweliad â Jerwsalem. Gwelodd lawer o’r mannau Beiblaidd ar ddydd Nadolig gan gynnwys Eglwys y Beddrod Sanctaidd a’r ystafell lle cynhaliwyd y Swper Olaf.

Gwthiwyd y syniad hwn o’r cysylltiad gyda gwlad y Beibl gan y propaganda a luniwyd i berswadio Cymry i brynu bonds i dalu am y rhyfel. Roedd hysbyseb yn tynnu sylw at y ffaith bod milwyr o Gymry yn dangos eu dewrder ar ‘dir sanctaidd Bethlehem’.

Cydiodd y syniadau aruchel hyn am genhadaeth y milwyr Cymreig yng Nghymru gyfan. Dathlai’r beirdd y ffaith fod milwyr o Gymru wedi chwarae rhan amlwg yn y brwydrau yng Ngwlad y Beibl. Enillodd Evan Jenkins wobr mewn eisteddfod leol am ei gerdd Cwymp Jerwsalem. Dinas Duw ydoedd: ‘Jerwsalem enwog, preswylfa Duw Iôr’. Mae’n gresynu bod y ddinas wedi bod yn nwylo’r Twrc am ganrifoedd, nes i feibion dewr Cymru groesi’r nant a redai rhwng muriau’r ddinas a Mynydd Olewydd.

Ond ha! daeth gwaredydd dros Gedron yn gu,

A dewrion feib Cymru ar flaenaf ei lu –

Esgynent, dychlament dros lechwedd y bryn –

Daeth emyn tlws Ceiriog i’w cof y pryd hyn.

(‘Emyn tlws Ceiriog’ yw ‘Rwy’n llefain o’r Anialwch’, sydd yn cynnwys y llinellau ‘Jerusalem fy nghartref / Jerusalem fy Nuw’).

Un testun poblogaidd i feirdd Cymru yn 1919 a 1920 oedd y milwyr yn dychwelyd adre, a bu llu o gerddi yn canmol cyfraniad a dewrder y milwyr Cymreig ac yn coffáu y rhai a fu farw. Pan enwid meysydd y brwydrau, tuedd gyson y beirdd oedd i ddelfrydu meysydd y gad yn y Dwyrain. Fel ‘Salem Lân’ y cyfeirir at Jerwsalem yng ngherdd John F. James ‘Dychweliad y Milwr’. Cyfeiria J. Luther Thomas at ‘ddaear gysygredig Canaan’.

Yn y misoedd yn dilyn diwedd y rhyfel, roedd atgofion am ymweliadau â’r mannau hyn yn amlwg mewn cylchoedd cyhoeddus yng Nghymru. Cyhoeddodd Hywel E. Lloyd gyfrif hir o’i amser yn Jerwsalem a Jerico, tra bod y Parch Arthur W. Davies, Caplan i’r milwyr Cymraeg yn yr Aifft a Phalesteina, wedi teithio o gwmpas Cymru yn rhannu ei brofiad am yr ymgyrch i feddiannu Jerwsalem.

Mae llawer o’r cofebau mewn capeli ac eglwysi ar draws Cymru yn enwi lle lladdwyd y rhai a goffeir. Felly ceir cyfeiriadau at fannau lle gwyddai pobl y bu peth o’r brwydro erchyllaf yn 1914-18. Er enghraifft, mae capel Calfaria, Blaenau Ffestiniog, yn nodi enwau’r ddau o’r eglwys a syrthiodd ym Mhalesteina. Mae Hyfrydle, Caergybi yn enwi lle gorwedd chwech o’i milwyr, gan gynnwys tri yn Gasa. Mae capel Tregarth yn rhestru deuddeg a fu farw, gan gynnwys un yn gorwedd yn Gasa

Yn dilyn y Rhyfel a’r Cadoediad, yr hyn a gofiwyd am gyfnod oedd aberth pendefigaidd  mewn achos cyfiawn. Dyfynna cofeb Tregarth linell o’r anthem genedlaethol: ‘Tros ryddid collasant eu gwaed’. Fe gymerodd beth amser cyn i’r dadrithio ddigwydd ac, erbyn hynny, roedd y cofebau yn eu lle, a’r penillion canmoliaethus wedi eu llunio.