Mae Dr Hywel Iorwerth a’r Athro Carwyn Jones o Brifysgol Fetropolitan Caerdydd yn dadlau nad peth gwael yw cenedlaetholdeb ar y maes chwarae – yn hytrach, gall arwain at ddatblygiadau positif…

Mae rhai’n dadlau bod chwaraeon yn amlygu’r problemau ynghylch cymunedau ac ymlyniad cenedlaethol ac mae gosodiad George Orwell fod chwaraeon yn gyfystyr â ‘rhyfel heb y saethu’ wedi datblygu’n arwyddair cryno ac effeithiol i’r gwrth-genedlaetholwyr.

Ein bwriad ni yw ymwrthod yn gryf â’r safbwynt fod cenedlaetholdeb, boed yn gyffredinol ynteu ar y maes chwarae, o anghenraid yn anfoesol.

Mae’n wir bod rhai mathau o genedlaetholdeb yn gul ac yn anfoesol, ond mae’n rhaid hefyd dderbyn bodolaeth cenedlaetholdeb rhyddfrydol, cymedrol ac agored. Mae’n anghywir dadlau bod cenedlaetholdeb o anghenraid yn groes i’r amcanion a’r gwerthoedd cosmopolitaidd – ein bod i gyd yn perthyn i’r un gymuned ac yn rhannu un foesoldeb – ac mae gan fudiadau chwaraeon rhyng-genedlaethol fel y Gemau Olympaidd a Chwpanau Byd botensial hynod arwyddocaol i hybu’r math hwn o genedlaetholdeb rhyddfrydol.

Ni fyddai llawer yn gwadu nad oes erchyllterau wedi eu cyflawni yn enw’r genedl, a bod cenedlaetholdeb yn gysylltiedig â rhai o’r digwyddiadau mwyaf dychrynllyd yn ein hanes modern. Defnyddiwyd rhethreg cenedlaetholdeb hefyd yn sail i bolisïau senoffobaidd a jingoistaidd wrth ymwneud â mewnfudwyr a thramorwyr ond yr hyn sydd yn nodweddu safbwynt y gwrth-genedlaetholwyr yw’r gred fod y fath erchyllterau yn ganlyniad anochel i genedlaetholdeb a gwladgarwch.

Mae cenedlaetholwyr rhyddfrydol yn cytuno’n llwyr â’r cosmopolitaniaid fod ffurfiau eithafol, penboeth, wedi’u seilio’n llwyr ar ethnigrwydd, yn anfoesol ac yn anghydnaws â gwerthoedd craidd rhyddfrydol. Mae gwladgarwyr cymedrol yn gweld ein dyletswyddau moesegol fel cylchoedd o fewn cylchoedd – dyw’r ffaith ein bod yn naturiol agosach at rai nag at eraill ddim yn golygu nad oes gennym ddyletswyddau moesegol sylfaenol tuag at ddynoliaeth yn gyffredinol.

Yn ogystal â hyn, mae’r ddau safbwynt yn cytuno bod angen ffyrdd mwy pwerus o greu deialog a chydweithrediad rhwng gwahanol ddiwylliannau’r byd a, thrwy hynny, hybu cymdeithas fyd-eang sydd yn heddychlon, yn gytûn ac yn ffynnu.

Dyw cenedlaetholwyr rhyddfrydol ddim yn gwadu’r erchyllterau sydd wedi eu cyflawni yn enw’r genedl, ond yn hytrach yn gwrthod y syniad bod y fath ddigwyddiadau yn rhan annatod neu hanfodol o genedlaetholdeb.

Y pwynt pwysig i genedlaetholwyr rhyddfrydol felly yw bod y genedl yn fframwaith diwylliannol pwysig sy’n creu ymdeimlad o agosrwydd, ymrwymiad a dyletswyddau moesegol arbennig rhwng ei chyd-aelodau ac y dylid ystyried y dyletswyddau hyn yn garreg sarn i’n goblygiadau moesegol tuag at ddynoliaeth yn gyffredinol.

Y gred felly yw bod dysgu sut i garu a bod â chonsýrn am ein cymuned ddiwylliannol gyfagos yn hanfodol er mwyn inni garu a bod â chonsýrn mewn cyd-destun byd-eang a chyffredinol.

Chwaraeon – iaith sy’n croesi rhwng diwylliannau

Chwaraeon cenedlaethol yw un o’r enghreifftiau amlycaf lle mae’r genedl yn dod yn fyw ac yn amlwg. Yn y cyd-destun hwn mae W. J. Morgan yn dadlau mai chwaraeon yw un o’r ieithoedd trawsddiwylliannol mwyaf cyfoethog sy’n galluogi pobl a diwylliannau gwahanol i’w diffinio’u hunain a chyfleu hyn i bobloedd a diwylliannau eraill.

Mae cystadlaethau chwaraeon rhyngwladol yn amlygu’r berthynas rhwng y cenedlaethol a’r rhyngwladol sy’n ganolog i safbwynt cenedlaetholdeb rhyddfrydol. Er enghraifft, mae’r Gemau Olympaidd yn fudiad byd-eang traws-genedlaethol, ond eto i gyd mae gan y sefydliad gyfansoddiad sydd wedi ei seilio ar batrwm cenhedloedd neilltuol.

Un enghraifft o’r ffordd y gall chwaraeon fod yn sylfaen ar gyfer trafodaeth ryngwladol yw’r gwahanol ystyriaethau oedd yn codi gyda thîm rygbi De Affrica tua diwedd cyfnod apartheid. Drwy gyfrwng cystadleuaeth o’r fath, cododd dadl eithriadol o bwysig yn Ne Affrica ei hun ac mewn llawer rhan arall o’r byd am wleidyddiaeth hil, cydraddoldeb, moesoldeb, a maes o law am drefn y byd.

Pan fethodd undeb rygbi De Affrica ymbellhau oddi wrth gefnogwyr apartheid, bu’r boicot a gafwyd yn sgil hynny gan undebau rygbi cenedlaethol eraill yn ffurf hanfodol bwysig ar ddisgwrs foesol. Yn y pen draw, newidiodd rygbi De Affrica ei safbwynt tuag at apartheid ac, er nad oedd buddugoliaeth y wlad yng nghystadleuaeth Cwpan y Byd yn golygu bod rhagfarn hiliol wedi’i dileu yn Ne Affrica nac yn unman arall, nid oes fawr o amheuaeth nad oedd y ddelwedd eiconig o Francois Pienaar, capten tîm rygbi De Affrica, a Nelson Mandela’n cyd-godi’r cwpan yn eiliad eithriadol o arwyddocaol a dylanwadol ar gyfer trafodaeth ddiwylliannol a moesol.

Y pwynt hollbwysig yma felly yw y dylid meddwl am gystadleuaeth chwaraeon ryngwladol a’r ystyriaethau diwylliannol cysylltiedig fel fforwm sy’n gofyn i unigolion ystyried beth maen nhw a’u diwylliant yn ei gynrychioli, ac o bosibl dylai sbarduno gweithredu a newid.

Mae gan gystadlaethau fel y Gemau Olympaidd y gallu i’n tynnu ni o’n corneli bach lle mae ein hethnigrwydd yn ganolog drwy ein gwahodd i ystyried ffyrdd amgen o fyw ac i bwyso a mesur yn fwy moesol arwyddocâd ein bywydau. Ond wrth ein tynnu ‘ni’ (diwylliannau penodol) o’n corneli, maen nhw’n gwneud hynny heb ddisgwyl i ni gofleidio syniad mawr haniaethol am fywyd, sy’n mynd yn groes i’r natur ddynol a hanes.

Y potensial

I ni, mae’r syniad o ddiwylliannau gwahanol yn nodwedd anochel o gymdeithas. Yn wir, mae hon yn agwedd graidd ar athroniaeth wleidyddol cenedlaetholdeb rhyddfrydol, sy’n dadlau na all rhai o’r delfrydau cosmopolitaidd, megis datblygu deialog rhwng diwylliannau ac ymwybyddiaeth a chytgord byd-eang, ddwyn ffrwyth os na fyddwn yn sylweddoli realiti a phwysigrwydd cymunedau diwylliannol penodol.

Dyma pam mae ymdrechion i ymwrthod yn llwyr â chystadlu rhyngwladol ym maes chwaraeon, gan ddadlau fod hynny’n anfoesegol ac yn ddiystyr, yn anwybyddu’r potensial sydd gan chwaraeon i gyfrannu at fwy o integreiddio a gwell dealltwriaeth rhwng yr amrywiol ddiwylliannau sy’n ffurfio’r gymuned chwaraeon ryngwladol.

Yng nghyd-destun chwaraeon rhyngwladol mae potensial nid yn unig i fynegi cenedlaetholdeb cymedrol ond hefyd i greu fforwm a deialog lle y gall gwahanol ddinasyddion rannu a dysgu oddi wrth ei gilydd. Cyn belled â’n bod yn cofio ein dyletswyddau moesol, gallwn ddathlu ein cenedlaetholdeb unigryw a dysgu oddi wrth eraill wrth wneud hynny.

Mae modd darllen yr erthygl wreiddiol, lawnach yn Gwerddon yma.