Cylchgronau Cwmni Golwg

Cylchgronau Golwg, Lingo Newydd, Wcw a’i Ffrindiau a Chwys

Golwg

Yr unig gylchgrawn newyddion a materion cyfoes wythnosol yng Nghymru a’r unig gylchgrawn newyddion Cymraeg.

Straeon gwreiddiol, erthyglau materion cyfoes, straeon nodwedd, celfyddydau a chwaraeon… a cholofnwyr dadleuol a difyr.

Ar gael bob dydd Iau yn eich siopau Cymraeg a siopau papur newydd, ac hefyd ar wefan Golwg+.

Tanysgrifiwch i Golwg neu Golwg+

Wcw a’i Ffrindiau

Cylchgrawn lliwgar i blant hyd at 9 oed, yn llawn o gymeriadau enwog a gwreiddiol, o Ben Dant a Rwdlan i Twm Tomato ac Wcw ei hun!

Tanysgrifiwch i Wcw a’i Ffrindiau

Lingo Newydd

Y cylchgrawn Cymraeg syml i bobol sy’n dysgu Cymraeg. Erthyglau a straeon difyr mewn cylchgrawn hwyliog pob dau fis, gydag adran eirfa a gwahanol lefelau o ddarllen.

Mae’n cynnwys erthyglau am natur, bwyd, ffasiwn, materion cyfoes ac adloniant, a chyfweliadau gyda phobl diddorol o Gymru.

Ar gael fel cylchgrawn ar-lein (Lingo+) sydd hefyd yn cynnwys traciau sain o’r holl erthyglau.

Tanysgrifiwch i Lingo Newydd neu Lingo+

Chwys

Y cylchgrawn digidol sy’n rhoi sylw i’r Cymry ym myd y campau. Pob math o erthyglau, sylwebaeth arbenigol a sylwadau am chwaraeon, yn syth i’ch mewnflwch!

Tanysgrifiwch i Chwys

 

Manylion cysylltu cylchgronau Golwg

Ymholiadau cyffredinol: ymholiadau@golwg.cymru

Golygyddol: golygyddol@golwg.cymru

Hysbysebion: Llion Roberts – llionroberts@golwg.cymru 

Tanysgrifiadau/gwerthiant: Mair Jones – mairjones@golwg.cymru

Rhif ffôn y swyddfa: 01570 423529