Aelod Cynulliad Ceredigion, Elin Jones, oedd un o’r rhai cynta’ i dorri’r newydd am farwolaeth y cyn-Weinidog, Carl Sargeant.
Ac yn ei swydd yn Llywydd y Cynulliad, roedd hi’n rhan o’r penderfyniad i ganslo gwaith y sefydliad am yr wythnos.
Dyna’r tro cynta’ i hynny orfod digwydd ers agor y Cynulliad yn 1999.
Y gred yw fod AC Alyn a Glannau Dyfrdwy wedi ei ladd ei hun wrth wynebu honiadau ei fod wedi camymddwyn yn rhywiol.
‘Sioc enfawr’
“Daeth y newyddion trist am farwolaeth Carl Sargeant AC fel sioc enfawr i mi,” meddai Elin Jones ddydd Mawrth wedi i’r newydd gyrraedd.
“Gwasanaethodd bobl Alun a Glannau Dyfrdwy gyda balchder a dycnwch a bu ei gyfraniad at ddatblygiad y sefydliad democrataidd hwn yn un enfawr.
“Fel arwydd o barch i Carl, ni fydd y Cynulliad yn cwrdd heddiw. Byddwn oll am fyfyrio cyn rhoi teyrnged glodwiw iddo dros y dyddiau nesaf.
“Ar ran yr holl Aelodau a phawb sydd yn gweithio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, dymunaf ddatgan fy nghydymdeimlad dwysaf â’i deulu a’i gyd-weithwyr.”