Gallai digwyddiadau chwaraeon gael eu gohirio tan ganol mis Medi yn Ffrainc – gan godi amheuon am y Tour de France, sydd wedi cael ei aildrefnu ar gyfer mis Awst.

Dywedodd gweinidog chwaraeon Ffrainc, Roxana Maeacineanu, wrth Eurosport ei bod hi’n disgwyl gweld cyfyngiadau ar gasgliadau o bobl yn cael eu gwthio tu hwnt i ganol Gorffennaf.

Ychwanegodd y gallai rhai chwaraeon ddychwelyd yn gynharach nag eraill, ond wnaeth ddim gwneud sylw am Tour de France.

Daeth cyhoeddiad gan drefnwyr Tour de France wythnos diwethaf yn dweud bod y ras i gael ei chynnal ar Awst 29, ddau fis ar ôl y dyddiad gwreiddiol sef Mehefin 27.

Dywed Roxana Maeacineanu fodd bynnag fod y posibilrwydd na fydd unrhyw ddigwyddiadau chwaraeon yn cael eu cynnal yn 2020 yn “gredadwy.”

“Beth sy’n sicr yw na fydd chwaraeon yn flaenoriaeth, dyw e ddim yn flaenoriaeth yn ein cymdeithas.”

Mae gan Ffrainc reolau llymach i’w lockdown nag sydd yma yn y Deyrnas Unedig.

Un o’r rheolau yw nad pobl yn cael beicio na gwneud ymarfer corff tu allan, sy’n golygu fod athletwyr proffesiynol yn gorfod hyfforddi tu mewn.

Dywed Roxana Maeacineanu nad oedd hi’n bosib gosod dyddiad pryd fydd pobl yn cael hyfforddi tu allan.