Mae asgellwr y Gleision, Tom James wedi cytuno ar gytundeb o ddwy flynedd gyda’r Exeter Chiefs.

Ar ôl cyfnod o saith mlynedd gyda’r Gleision ac wedi ennill deg cap, James yw’r diweddaraf i adael y Gleision.

James yw’r chwaraewr cyntaf y mae Exeter wedi ei arwyddo ar gyfer y tymor nesaf.

‘‘Rwyf wedi cael saith mlynedd wych gyda’r Gleision, rwy’n ddiolchgar iawn am y cyfleoedd a’r gefnogaeth a gefais yn ystod fy nghyfnod gyda’r rhanbarth,’’ meddai James.