Justin Tipuric
Bydd yn rhaid i’r Gweilch guro Caerlŷr os ydyn nhw am fynd ymhellach yng nghystadleuaeth cwpan Heineken, ond mae’n debyg y bydd yn rhaid  gwneud heb y ddau chwaraewr rhyngwladol, Ashley Beck a Justin Tipuric, meddai’r rheolwr.

‘‘Os byddwn heb Beck a Tipuric mi fydd hi’n dasg anodd i ni, yn enwedig o ystyried y garfan gyfyng sydd gennym ar hyn o bryd.  Ond mae’n rhywbeth y mae’n rhaid i ni baratoi ar ei gyfer ac am roi cynnig ar yr her sydd o’m blaenau,’’ meddai Steve Tandy, rheolwr y Gweilch.

Mae Tandy yn obeithiol o gael Tipuric ar faes y Liberty ddydd Sul, ond wedi mynnu na fydd yn cymryd unrhyw risg, er gwaethaf maint y gêm.

Mae disgwyl i Tom Issacs gymryd lle Ashley Beck a Sam Lewis i gymryd lle Justin Tipuric.