Disgwyl i Henson arwyddo i Toulon yn Ffrainc
Mae yna dro pellach yn stori Gavin Henson, gyda disgwyl i’r canolwr ymuno gyda Toulon yn Ffrainc.

Fe ddaw hynny o fewn ychydig tros fis iddo chwarae ei gam gynta’ tros y Saraseniaid yn Llundain.

Mae’n ymddangos bod y clwb o Loegr wedi cytuno i’w ryddhau, er ei fod wedi dweud ynghynt ei fod eisiau chwarae yn Lloegr er mwyn bod yn agos at ei blant.

Oherwydd anaf, dim ond pedair gwaith yr oedd wedi chwarae tros y Saraseniaid – roedd hefyd yn anhapus am gael ei ddewis yn ganolwr yn hytrach na maswr.

Mynd at Jonny

Ond nawr mae’n ymuno â’r clwb lle mae Jonny Wilkinson yn chwarae yn safle’r rhif 10 ac, oherwydd Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, does gan glybiau Ffrainc ddim llawer o gemau mawr ar hyn o bryd.

Gavin Henson yw’r Cymro diweddaraf i ymuno gydag un o glybiau Ffrainc ar ôl i James Hook a Lee Byrne gyhoeddi eu bod nhw’n gadael y Gweilch.

“R’yn ni’n dymuno’n dda i Gavin yn y dyfodol wrth iddo barhau i ddychwelyd i lefel uchaf y gêm,” meddai cadeirydd y Saraseniaid, Nigel Wray.