Fe fydd gwylwyr S4C yn gallu dewis gwrando ar sylwebaeth go wahanol i’r arfer yn ystod gêm rygbi Cymru a Lloegr ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad nos Wener.

Drwy’r gwasanaeth botwm coch, gall gwylwyr ddewis wrando ar y gêm yng nghwmni cyflwynwyr C2 BBC Radio Cymru, Magi Dodd, y digrifwr Daniel Glyn a seren rygbi merched Cymru, Non Evans.

Fe fydd modd gwrando ar eu sylwebaeth ar wefan BBC Radio Cymru hefyd.

“Y bwriad yw trio apelio at wylwyr sydd falle ddim yn ddilynwyr mawr o rygbi, ond sy’n mwynhau gwylio gemau mawr fel Cymru v Lloegr ac yn dymuno sylwebaeth ychydig yn wahanol,” meddai Magi Dodd.

“Dydw i na Daniel ddim yn ddilynwyr brwd o rygbi – ond rydyn ni wrth ein boddau â’r gêm. Mi fyddwn ni’n cynrychioli llais y gwylwyr sydd ddim yn deall yr holl reolau technegol. Pob lwc i’n harbenigwraig Non Evans wrth geisio ein dysgu ni!”

Fe fydd cefnogwyr rygbi selog yn falch o glywed y bydd y tîm cyflwyno arferol ar brif wasanaeth S4C wrth i Gareth Roberts gael cwmni Huw Llywelyn Davies a Gwyn Jones yn y blwch sylwebu, Dot Davies ar yr ystlys a’r cyn-chwaraewyr rhyngwladol Gareth Edwards, Derwyn Jones a Brynmor Williams yn y tîm dadansoddi.