Mae hyfforddwr tîm saith bob ochr Cymru, Paul John, wedi cynnwys tri wyneb newydd yn y garfan ar gyfer dau gymal nesaf cyfres y byd.

Mae mewnwr y Dreigiau, Nicky Griffiths, Adam Thomas o Bontypridd, a chwaraewr Aberafan, Ricky Thomas wedi eu cynnwys yn y garfan ar gyfer y cystadlaethau yn Wellington a Las Vegas dros y pythefnos nesaf.

Mae Paul John wedi gwneud un newid arall i’r garfan. Bydd Alex Cuthbert yn dychwelyd yn dilyn anaf.

Mae Cymru wedi dechrau’r gyfres yn dda gan gyrraedd rownd yr wyth olaf yn y ddau gymal cyntaf, ac mae’r hyfforddwr am weld Cymru yn cynnal hynny.

“Roedden ni’n gystadleuol yn y ddau gymal gyntaf ac ein bwriad yw cyrraedd y tu hwnt i’r grŵp yn y ddau nesaf hefyd,” meddai Paul John.

“Fe fydd hynny’n her. Mae’n cymryd amser i chwaraewyr newydd ddod yn gyfarwydd gyda rygbi saith bob ochr rhyngwladol.

“Does dim llawer iawn o amser wedi bod i baratoi ond rwy’n gwybod y bydd pawb yn gwbl ymroddedig i’r dasg sydd o’n blaenau.”

Carfan Cymru

Lee Rees (Scarlets), Rhys Jones (Casnewydd), Gareth Davies (Caerdydd), Rhodri Gomer-Davies (Dreigiau), Ifan Evans (Llanymddyfri), Rhys Shellard (Caerdydd), Richie Pugh (Scarlets), Alex Cuthbert (Gleision), Jevon Groves (Dreigiau), Nicky Griffiths (Dreigiau), Adam Thomas (Pontypridd), Ricky Thomas (Aberafan).