Mae’r Dreigiau wedi arwyddo Jonah Holmes o Gaerlŷr.

Mae’r chwaraewr 27 oed, sy’n gallu chwarae fel cefnwr neu asgellwr, wedi ennill tri chap dros Gymru.

Cafodd ei ryddhau gan y Teigrod gyda blwyddyn yn weddill o’i gytundeb, a hynny ar ôl sgorio 24 o geisiau mewn tri thymor.

Mae Dean Ryan, Cyfarwyddwr Rygbi’r Dreigiau, yn dweud ei fod e’n “chwaraewr rhyngwladol o’r radd flaenaf”.

“Mae gan Jonah gryn uchelgais, ar y llwyfan rhyngwladol a domestig, ac rydym yn falch ei fod e’n credu mai’r Dreigiau yw’r ffit gorau er mwyn iddo allu gyflawni ei amcanion,” meddai.

‘Alla i ddim aros’

“Dw i’n falch o gael cadarnhau’r symudiad ac alla i ddim aros i gael dechrau mewn cystadleuaeth newydd ac ymuno â ’nghyd-chwaraewyr,” meddai Jonah Holmes.

“Dw i wedi siarad am yn hir â Dean [Ryan], dw i’n gwybod beth yw’r uchelgais ar gyfer y dyfodol a dw i wedi gweld y garfan sy’n cael ei hadeiladu.

“Dw i wedi cyffroi gan yr her sydd o’n blaenau.

“Dw i’n canolbwyntio’n llwyr nawr ar y Dreigiau, cael fy integreiddio yn y garfan cyn gynted â phosib a ceisio cael fy enw yn y tîm cyntaf.

“Mae gen i uchelgais hefyd i fod yn rhan o garfan Cymru wrth fynd ymlaen, cael bod yn y garfan nesaf, felly mae cefnogaeth y tîm hyfforddi cenedlaethol drwy gydol y broses hon wedi bod yn wych.

“Mae fy niolch i’n mynd i Gaerlŷr.

“Dw i wedi cael tair blynedd dda gyda’r Teigrod, wedi dysgu tipyn ac wedi dod ymlaen yn dda â phawb.

“Dw i’n diolch iddyn nhw am ddeall, ac yn dymuno’n dda i bawb yn y clwb ar gyfer y dyfodol.”