Mae pryderon na fydd modd ailddechrau tymor rygbi’r PRO14 yn sgil y cyfyngiadau teithio ledled Ewrop o ganlyniad i’r coronafeirws.

Mae timau o Gymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon, Gweriniaeth Iwerddon, yr Eidal a De Affrica yn cystadlu yn y gynghrair, sy’n ei gwneud hi’n anodd darogan pryd fydd hi’n ddiogel i dimau deithio eto.

 

Yn ôl Undeb Rygbi’r Alban, fe fydd y tymor yn cael ei gwtogi os bydd modd cynnal gemau eto, ac fe fyddai angen sêl bendith y llywodraethau unigol, nid dim ond yr awdurdodau rygbi.

 

Mae amheuon ar hyn o bryd am deithiau’r haf, yn ogystal â gemau’r hydref, ac mae angen gorffen Pencampwriaeth y Chwe Gwlad a’r cystadlaethau Ewropeaidd rywbryd hefyd.