Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cyhoeddi teyrnged i Matthew J Watkins ar y diwrnod pan oedd disgwyl i’r byd rygbi dalu teyrnged iddo gyda munud o gymeradwyaeth yn Stadiwm Principality.

Daw’r deyrnged ar wefan yr Undeb ar ôl i’r gêm rhwng Cymru a’r Alban ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad heddiw (dydd Sadwrn, Mawrth 14) gael ei gohirio oherwydd coronavirus.

Bu farw cyn-ganolwr Cymru o ganser yn 41 oed ar Fawrth 7 ac mae’r Undeb yn dweud ei fod e’n “ganolwr creadigol â sgiliau”.

Teyrnged

Mae’r deyrnged yn nodi iddo ddechrau ei yrfa rygbi gyda chlwb Casnewydd, gan gynrychioli timau ieuenctid a saith bob ochr Cymru cyn mynd yn ei flaen i ennill 18 o gapiau dros ei wlad.

Ymddangosodd e yng nghrys y Scarlets 150 o weithiau cyn ymuno â Chaerloyw a gorffen yn y Dreigiau.

“Fe wnaeth Matthew barhau i roi’n ôl i rygbi ar ôl ei ddyddiau’n chwarae ac er gwaethaf cwffio canser, fe wnaeth e helpu i hyfforddi timau bach a phlant Oakdale ac Aberhonddu yn y tymor pan enillon nhw’r Plât,” meddai’r deyrnged.

“Roedd Matthew yn ŵr cariadus i Stacey ac yn dad i’w bechgyn Siôr a Tal.

“Yn ymladdwr hyd y diwedd, bydd Matthew hefyd yn cael ei gofio am ei frwydr ddewr dros wyth mlynedd yn erbyn canser a’i ymrwymiad diflino i godi arian i gefnogi elusennau a gwasanaethau sy’n cynnig cefnogaeth i eraill sy’n cwffio’r afiechyd.

“Cwsg mewn hedd, Matthew J.”