Bydd prop Sale, WillGriff John yn ennill ei gap cyntaf i Gymru pan fyddan nhw herio’r Alban yn Stadiwm Principality ddydd Sadwrn (Mawrth 14).

Mae pedwar newid i’r tîm a gafodd eu trechu gan Loegr yn Twickenham wythnos ddiwethaf.

Bydd y mewnwr Rhys Webb yn dechrau ei gêm gyntaf dros ei wlad ers bron i ddwy flynedd a hanner, gyda Tomos Williams yn colli ei le.

Nid yw Jake Ball ar gael oherwydd anaf felly mae clo’r Dreigiau, Cory Hill yn cymryd ei le, tra bod y prop Wyn Jones yn dychwelyd i’r tîm yn lle Rob Evans.

Fe fydd y capten, Alun Wyn Jones yn dod yn gyfartal â record Richie McCaw o Seland Newydd am y nifer fwyaf o gapiau rhyngwladol, wrth iddo ennill ei 148fed cap.

Hwn fydd cap rhif 139 dros Gymru i Alun Wyn Jones sydd hefyd wedi gwneud naw ymddangosiad i’r Llewod.

Y gêm rhwng Cymru a’r Alban yw’r unig un sy’n mynd yn ei blaen yn y gystadleuaeth y penwythnos hwn, wedi i’r gemau yn Ffrainc a’r Eidal gael eu gohirio.

Tîm Cymru                   

Leigh Halfpenny; George North, Nick Tompkins, Hadleigh Parkes, Liam Williams; Dan Biggar, Rhys Webb; Wyn Jones, Ken Owens, WillGriff John, Cory Hill, Alun Wyn Jones (capten), Josh Navidi, Justin Tipuric, Ross Moriarty.

Eilyddion: Ryan Elias, Rhys Carré, Leon Brown, Will Rowlands, Taulupe Faletau, Gareth Davies, Jarrod Evans, Johnny McNicholl.