Lloegr 33–30 Cymru

Colli fu hanes Cymru wrth iddynt deithio i Twickenham i herio Lloegr ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad nos Sadwrn.

Cafodd Cymru ddigon o’r tir a’r meddiant ond roedd amddiffyn Lloegr yn llawer gwell na’r ymwelwyr ac fe gymerodd y tîm cartref eu cyfleoedd pan y daethant.

Rhoddodd dau gais hwyr wedd barchus ar y sgôr ond roedd hi’n fuddugoliaeth gymharol gyfforddus i’r tîm cartref mewn gwirionedd.

Hanner Cyntaf

Dechreuodd Lloegr ar dân gyda chais i Anthony Watson wedi dim ond pedwar munud, yr asgellwr yn ymestyn at y gwyngalch wedi symudiad taclus oddi ar y lein, saith i ddim wedi trosiad Owen Farrell.

Tarodd Cymru nôl gyda dwy gic gosb o droed Leigh Halfpenny o bobtu un gan Farrell ac roedd yr ymwelwyr yn y gêm ac yn edrych yn dda wedi hanner awr o chwarae.

Gorffennodd Lloegr yr hanner yn gryf serch hynny a phan lithrodd Elliot Daly drosodd yn y gornel chwith roedd gan Gymru fynydd i’w ddringo.

Llwyddodd Farrell gyda’r trosiad cyn ychwanegu cic gosb i ymestyn y bwlch i ddau drosgais funud cyn yr egwyl.

Ond Cymru a gafodd air olaf yr hanner wrth i Dan Biggar gau’r bwlch i un pwynt ar ddeg gyda chic olaf yr hanner, 20-11 y sgôr wrth droi.

Ail Hanner

Os ddechreuodd Lloegr yr hanner cyntaf yn dda, fe gafodd Cymru ddechrau anhygoel i’r ail, gyda Justin Tupiric yn sgorio cais wedi 22 eiliad yn unig. Gwrthymosodiad gwych yn syth o’r ail ddechrau gan Nick Tompkins, Josh Navidi a Tomos Williams yn rhyddhau’r blaenasgellwr o dan y pyst!

Pedwar pwynt a oedd ynddi wedi trosiad Biggar ond adferodd Lloegr reolaeth ar y gêm a’r sgôr-fwrdd yn raddol gyda chic gosb yr un gan Farrell a George Ford ac roedd deg pwynt yn gwahanu’r ddau dîm gyda chwarter y gêm yn weddill.

Roedd buddugoliaeth y Saeson yn ddiogel yn fuan wedi hynny pan groesodd Manu Tuilagi am drydydd cais y tîm cartref, tasg syml i’r canolwr wedi i amddiffyn Cymru gael ei sugno’n gul yn dilyn cyfnod o dan bywsau.

Collodd Lloegr eu disgyblaeth yn y deg munud olaf gan orffen y gêm gyda thri dyn ar ddeg. Roedd cerdyn melyn i’r eilydd brop, Ellis Genge, cyn i Tuilagi dderbyn coch am dacl beryglus ar George North.

Manteisiodd Cymru ar y gwagle i sgorio dau gais hwyr. Croesodd Biggar am un cyn i Tipuric sgorio ei ail ef o’r gêm.

Rhoddodd hynny bywnt bonws i dîm Wayne Pivac ond rhy ychydig rhy hwyr a oedd hi o ran ennill y gêm.

.

Lloegr

Ceisiau: Anthony Watson 4’, Elliot Daly 32’, Manu Tuilagi 61’

Trosiadau: Owen Farrell 6’, 34’, 62’

Ciciau Cosb: Owen Farrell 16’, 39’, 45’, George Ford 52’

Cerdyn Melyn: Ellis Genge 73’

Cerdyn Coch: Manu Tuilagi 75’

.

Cymru

Ceisiau: Justin Tupiric 41’, 80’, Dan Biggar 78’

Trosiadau: Dan Biggar 42’, 78’, 80’

Ciciau Cosb: Leigh Halfpenny 10’, 21’, Dan Biggar 40’