Mae asgellwr Cymru, Hallam Amos allan o Bencampwriaeth y Chwe Gwlad a gweddill y tymor gydag anaf i’w ben-glin.

Cafodd e’r anaf wrth chwarae i’r Gleision yn erbyn Benetton yn y Pro14 y penwythnos diwethaf.

Bydd e nawr yn cael llawdriniaeth ac mae’n debyg na fydd e’n holliach tan y tymor nesaf.

Dyw Undeb Rygbi Cymru ddim wedi cyhoeddi a fydd chwaraewr arall yn cymryd ei le yng ngharfan Chwe Gwlad Cymru eto.

Mae’r maswr Sam Davies eisoes yn ymarfer gyda’r garfan yn dilyn amheuon am ffitrwydd Dan Biggar cyn i Gymru herio Lloegr ddydd Sadwrn (Mawrth 7).