Fydd meddygon tîm rygbi Cymru ddim yn rhuthro i sicrhau bod George North ar gael i herio Lloegr ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad (Mawrth 7), yn ôl Stephen Jones, yr hyfforddwr ymosod.

Mae’n cwblhau’r protocol cyfergyd ar ôl taro’i ben yn y gêm yn erbyn Ffrainc yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn, cyn methu asesiad i’r pen.

Dyma’r chweched tro iddo fe gael cyfergyd, ac fe fu cryn drafod am ei ddyfodol ers tro.

“Dw i’n credu mai pedair blynedd yn ôl gafodd e’r un diwetha’,” meddai Stephen Jones.

“Mae George yn mynd trwy’r protocol, yr un fath â Dan [Biggar, cyn y gêm yn erbyn Ffrainc].

“Mae gyda ni staff meddygol elit yn edrych ar ei ôl e, ac maen nhw’n sicrhau ei fod e’n ticio pob bocs.

“Fydd dim rhuthro na gorfodi oherwydd lles chwaraewyr yw’r peth pwysica’.

“Bydd tic ym mhob bocs, dyna’r peth pwysica’.

“Mae George mewn lle da, mae e’n dilyn y trywydd iawn ac mae e mewn hwyliau da.”

Mae Josh Adams allan o’r gystadleuaeth, ac fe fu Liam Williams yn ymarfer gyda’r garfan er nad yw e wedi chwarae ers mis Hydref oherwydd anaf i’w ffêr.

Ac mae Cymru’n cadw llygad ar yr asgellwr ifanc Louis Rees-Zammit ar hyn o bryd.