Fe fydd y cefnwr Mat Protheroe yn dod adre’ i Gymru y tymor nesaf, ar ôl ymuno â’r Gweilch ar gytundeb dwy flynedd o Fryste.

Cafodd y chwaraewr 23 oed, sydd hefyd yn gallu chwarae yn safle’r maswr, ei eni yn Abertawe a roedd e’n cefnogi’r rhanbarth pan oedd e’n iau.

Daw’r newyddion ar ôl i’r Gweilch hefyd ddenu’r mewnwr Rhys Webb adre’ i Gymru.

“Boi o Abertawe ydw i, a ches i fy magu’n gwylio’r Gweilch,” meddai.

“James Hook, Shane Williams, Tommy Bowe, Jonathan Thomas, Filo Tiatia a Lee Byrne oedd y chwaraewyr ro’n i’n arfer mynd i’r Liberty i’w gwylio yn fachgen ifanc.

“Ces i fy magu’n gwylio’r chwaraewyr hynny, ac mae cael eu dilyn nhw’n beth mawr i fi.

“Mae’n her gyffrous i fi.

“Dw i erioed wedi chwarae yn PRO14 Guinness, sydd yn gynghrair newydd i fi, felly mae’n gyffrous i fi a dw i wir yn edrych ymlaen at yr her.”

Gyrfa hyd yn hyn

Enillodd Mat Protheroe ysgoloriaeth i Goleg Hartpury ac fe gynrychiolodd e dimau dan 18 a dan 20 Lloegr.

Sgoriodd e saith cais mewn 14 o gemau i Glwb Rygbi Hartpury yn Adran Gyntaf Cynghrair Lloegr yn 2015.

O’r fan honno, ymunodd e â Chaerloyw, cyn symud i Fryste yn y Bencampwriaeth yn 2017-18, lle enillodd e wobr am gais gorau’r tymor yn erbyn Cornish Pirates ar ôl rhedeg hyd y cae.

‘Uchelgais’

Mae’n dweud mai ei uchelgais yw ennill tlysau.

“Pan o’n i’n gwylio’r Gweilch wrth dyfu i fynu, nhw oedd y rhanbarth fwyaf llwyddiannus bob amer, ac roedden nhw bob amser yn ennill tlysau ac yn brwydro am dlysau,” meddai.

“Mae’n uchelgais gen i ennill tlysau a dw i bob amser yn ceisio gwneud hynny.

“Dw i’n gwybod fod y Gweilch wedi cael rhai misoedd anodd, ond o edrych ar y tu allan ar y  dalent ymhlith y chwaraewyr iau a’r rhai mwyaf profiadol, dw i’n gwybod y gallan nhw gystadlu ar lefel uchaf Ewrop ac ar lefel ddomestig.

“Felly’r nod dw i’n ei gosod i fi fy hun yw ennill tlysau.”

Chwarae dros Gymru

Mae hefyd yn dweud bod chwarae dros Gymru yn uchelgais arall sydd ganddo fe.

“Fel plentyn o Gymru sy’n chwarae rygbi, y freuddwyd yn y pen draw yw cynrychioli eich gwlad,” meddai.

“Mae’n nod gen i wneud hynny ond er mwyn ei wneud e, rhaid cael amser mewn gemau a phrofi fy hun gyda’r Gweilch yn y lle cyntaf.

“Felly dw i’n gwybod fod rhaid i fi berfformio dro ar ôl tro, bob wythnos i’r Gweilch, er mwyn bod â gobaith o chwarae dros Gymru.”