Mae’r Gweilch wedi penodi Toby Booth yn brif hyfforddwr.

Mae e wedi llofnodi cytundeb tair blynedd, ac fe fydd e’n dechrau ar ei waith yn yr haf.

Mae gan gyn-brif hyfforddwr Gwyddelod Llundain enw da am feddu ar feddwl craff, sgiliau cyfathrebu rhagorol a charisma, yn ogystal â dawn am ddatblygu sgiliau chwaraewyr a hyfforddwyr.

Mae ei benodiad yn dod â chyfnod cythryblus i ben i’r rhanbarth ar ôl i Allen Clarke gael ei symud o’i swydd.

Yn ystod ei bedair blynedd gyda Gwyddelod Llundain, cyrhaeddodd y tîm rowndiau terfynol Uwch Gynghrair Lloegr a’r Gwpan Her, yn ogystal â Chwpan Heineken dair gwaith.

Roedd yn hyfforddi tîm Caerfaddon rhwng 2012 a 2019, ac mae e’n hyfforddi’r Harlequins ar gytundeb tymor byr ar hyn o bryd.

Ymateb i’r penodiad

“Pan ddaeth y cyfle i ymuno â’r fath dîm Cymreig eiconig, sydd wedi’i leoli mewn ardal sydd yn angerddol am y gêm, fe wnaeth y cyfan yn ddeniadol dros ben,” meddai Toby Booth.

“Mae’r Gweilch yn dîm sy’n llawn talent a phrofiad rhyngwladol.

“Maen nhw’n griw uchelgeisiol sydd â chryn botensial i wella.

“Ar ôl datblygu chwaraewyr drwy gydol fy ngyrfa, dw i’n edrych ymlaen at ychwanegu gwerth at y garfan hon o chwaraewyr a datblygu eu perfformiadau ar y cae.

“Mae’r rhanbarth rygbi gyfoethog hon bob amser wedi cynhyrchu talent ifan.

“Roedd y gallu i helpu chwaraewyr i gyrraedd eu potensial yn ffactor oedd wedi cyfrannu at fod eisiau’r swydd hon.”

‘Hyfforddwr sy’n sefyll allan’

Yn ôl Mike Ruddock, Cyfarwyddwr Perfformiad y Gweilch, roedd Toby Booth yn sefyll allan uwchlaw’r ymgeiswyr eraill.

“Rydym yn falch o gyhoeddi mai Toby Booth yw prif hyfforddwr y Gweilch,” meddai.

“Mae Toby yn hyfforddwr profiadol dros ben sydd wedi profi ei hun dros nifer o flynyddoedd yn Uwch Gynghrair Lloegr gyda Gwyddelod Llundain, Caerfaddon a Harlequins.

“Mae e’n gyfathrebwr gwych ac yn hyfforddwr arloesol.

“Roedd ei record am ddatblygu rhaglenni rygbi perfformiad uwch wedi creu argraff ar y panel cyfweld a’r chwaraewyr uwch oedd wedi cwrdd â fe yn ystod y broses recriwtio.

“Roedd nifer o ymgeiswyr rhagorol ar y rhestr fer, ond roedd gallu Toby i amlinellu ei athroniaeth hyfforddi a’i wybodaeth benodol am rygbi wedi creu argraff ac wedi dangos ei fod e’n hyfforddwr rhagorol.”