Mae Wayne Pivac, prif hyfforddwr tîm rygbi Cymru, yn dweud ei fod yn disgwyl gêm fawr gan George North pan fydd yn herio Ffrainc yfory (dydd Sadwrn, Chwefror 22).

Mae’r asgellwr wedi sgorio 40 o geisiau mewn 93 o gemau, a dim ond Shane Williams sydd wedi sgorio mwy o geisiau dros Gymru.

Er hynny, mae George North wedi cael ei feirniadu yn dilyn ei berfformiad aneffeithiol yn Nulyn 12 diwrnod yn ôl.

“Dwi’n disgwyl gêm fawr gan George y penwythnos hwn, ac rwy’n gwybod ei fod o’n awyddus i chwarae’n dda,” meddai Wayne Pivac.

“Mae yna bobl sydd wedi ei feirniadu, ond mae o wedi chwarae oddeutu 90 o gemau ac mae ganddo 40 o geisiau i’w enw.”

Shaun Edwards yn dychwelyd

Ffrainc ac Iwerddon yw’r unig ddwy wlad all ennill y Gamp Lawn bellach.

Ac er nad yw ‘Les Bleus’ wedi ennill gêm ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yng Nghaerdydd ers 2010, byddan nhw’n cyrraedd gyda chyn-arbenigwr amddiffyn Cymru, Shaun Edwards yn un o’u hyfforddwyr.

“Mae ganddyn nhw hyfforddwr sy’n adnabod y stadiwm yma’n dda, ac fe gafodd e lot o lwyddiant yma,” meddai Wayne Pivac.

“Heb os, bydd o’n ceisio adeiladu eu hyder cyn y gêm.

“Maen nhw’n dîm da, ac rydyn ni wedi gweld hynny eisoes.”