Bydd Cymru, y tîm gyda’r mwyaf o gapiau yn hanes Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, yn herio Ffrainc ddydd Sadwrn (Chwefror 22).

Mae prif hyfforddwr Cymru, Wayne Pivac yn gobeithio y gall yr holl brofiad fod yn ffactor yn erbyn Ffrainc.

Mae gan dîm Cymru 859 cap rhyngddynt, gyda dros hanner y tîm wedi chwarae o leiaf 50 o gemau rhyngwladol.

Yr Eidal oedd yn arfer dal y record wedi iddynt chwarae tîm gyda 822 cap yn erbyn yr Alban yn 2012.

Bydd Alun Wyn Jones yn agosáu at ei 140fed cap dros ei wlad.

“Efo lwc, mi fydd yn meddwl lot y penwythnos hwn,” meddai Wayne Pivac.

“Os allwn ni ddechrau yn dda, sy’n rhywbeth ’da ni’n ceisio ei wneud yn y ddau hanner -yna bydd yr holl brofiad yna’n dod drwyddo a chawn roi cyfle i’n chwaraewyr amhrofiadol chwarae.”